Y Daith Hir
www.y-daith-hir.com

Y Daith Hir

 

Mae’r Navaho yn byw yng Ngogledd America.

 

Llwyth o frodorion Gogledd America ydyn nhw.  Mae tua 300 000 ohonyn nhw ac mae’r rhan fwyaf yn byw ar randir yn ne-orllewin Gogledd America.


 Cartref y Navaho heddiw

 

Hanes

Ffermwyr oedd y Navaho yn wreiddiol. Roedden nhw’n byw yn Arizona, Mecsico Newydd, Utah a Colorado. Roedden nhw’n tyfu eu cnydau eu hunain. Roedd y merched yn edrych ar ôl y cartrefi a’r tir ac roedd y dynion yn hela am fwyd ac yn amddiffyn y bobl.  Roedden nhw’n byw mewn “hogans” – cartrefi wedi eu gwneud o ffrâm o bren gyda waliau wedi eu gwneud o glai.

 

Daeth milwyr a llwythau eraill i ymosod ar y Navaho a daeth pobl ddieithr i gymryd eu tir ac i fyw yno.

 

Yn 1864, ymosododd Cyrnol Kit Carson a’i filwyr yn ffyrnig ar y Navaho, gan ladd llawer ohonyn nhw a dinistrio anifeiliaid, cnydau, offer a chartrefi.  Cipiodd lawer ohonyn a’u gorfodi nhw i gerdded 300 milltir i randir Bosque Redondo yn Fort Sumner yn Mecsico Newydd, i fyw fel carcharorion. Roedd y daith yn hir ac yn anodd a bu farw tua 200 o’r Navaho o newyn, salwch a gwendid.

 

Doedd pennaeth y llwyth, Manuelito, neu Bullet, a’i ddilynwyr ddim yn fodlon mynd i Bosque Redondo ac felly buon nhw’n ymladd yn erbyn y fyddin. Fodd bynnag, yn y diwedd, oherwydd prinder bwyd, roedd rhaid iddyn nhw ildio a mynd i Bosque Redondo hefyd.

 

Roedd bywyd yn y rhandir yn ofnadwy.  Roedd y Navaho wedi gadael tiroedd ffrwythlon, lle roedd digon o borfa dda a dŵr clir ar gyfer magu anifeiliaid, a nawr roedd rhaid iddyn nhw fyw mewn tir sych, anodd ei drin. Roedd bywyd mor anodd fel bod Manuelito a rhai eraill o’r arweinwyr wedi cael caniatâd i fynd i Washington D.C. ym 1868 i ofyn am randir newydd. Yn y diwedd, cawson nhw eu symud yn ôl i randir newydd – ar y tir lle roedden nhw wedi bod yn byw yn y lle cyntaf.

 

Erbyn heddiw, mae gan y rhandir ei lywodraeth ei hun, ei heddlu a’i wasanaethau – fel unrhyw wlad – ac mae gan y Navaho arlywydd.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llwyth grŵp o bobl sy’n rhannu’r un ffordd o fyw tribe
brodorion lluosog brodor; rhywun sy’n dod o wlad benodol natives
cnydau lluosog cnwd: bwyd sy’n tyfu crops
amddiffyn gwarchod, cadw’n ddiogel to defend
cipio cymryd to take
newyn dim bwyd starvation
gwendid y cyflwr o fod yn wan weakness
pennaeth arweinydd chief
ildio rhoi mewn to yield, give in
rhandir Yn hanesyddol, roedd y brodorion yn cael eu symud o’u cartrefi eu hunain ac yn cael eu gorfodi i fyw ar darn o dir. reservation
trin gweithio to treat
arlywydd arweinydd president