Rydych chi yn eich gwers cyn amser cinio dydd Gwener. Yn sydyn, mae athro arall yn dod ac yn dweud wrth eich dosbarth chi am fynd i'r neuadd. Yno, mae'r pennaeth yn disgwyl amdanoch chi.
Cliciwch ar y llun uchod i glywed beth mae hi'n ei ddweud.
Rydych chi a'ch ffrindiau wedi cael sioc. Dydych chi ddim yn siwr am faint o amser y byddwch chi'n gorfod aros yn yr ysgol. Tybed beth fydd yn digwydd?
Yn 2009, cafodd 21 o blant ysgol o Loegr eu cadw mewn gwesty yn Beijing am wythnos. Roedd ffliw'r moch ar un ohonyn nhw, a doedd swyddogion yn Tsieina ddim eisiau i bobl Tsieina ddal y ffliw.
Cawson nhw eu cadw ar un llawr o'r gwesty. Ond doedd pethau ddim yn rhy ddrwg. Roedd gardd fach yn y gwesty lle roedden nhw'n gallu mynd i chwarae pêl-droed ac roedd y bwyd yn dda.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
haint | rhywbeth sy'n gwneud i chi fynd yn sâl | infection |