Mae cwmni Biopharm yn yr Hendy, De Cymru, yn gartref i dros 50,000 gelen. Maen nhw'n cael eu hanfon i ysbytai a labordai ymchwil dros y byd. Yn wir, maen nhw wedi helpu pobl mewn 29 o wledydd i gyd.

Os bydd person wedi colli bys, llaw, coes, clust neu drwyn, mae llawfeddygon yn gallu eu gwnïo nhw'n ôl. Ond weithiau dydy'r gwaed ddim yn llifo drwy'r gwythiennau'n dda. Mae'r gelod yn cael eu defnyddio i helpu'r gwaed i lifo eto fel bod y bys neu'r trwyn yn 'cydio' eto.

Mae gelod wedi cael eu defnyddio i wella pobl ers miloedd o flynyddoedd. Roedd pobl yn arfer credu bod gormod o waed yn beth drwg, felly roedd gelod yn cael eu defnyddio i sugno ychydig ohono i ffwrdd.

gelod2.jpg

Roedd gelod yn arfer cael eu cadw mewn dŵr mewn jariau hardd fel hyn. Llun: king_david_uk

Ffeithiau am elod:

  • Maen nhw'n byw mewn llynnoedd ac yn y môr.
  • Mae hyd at wyth pâr o lygaid gan rai gelod.
  • Mae gelod yn wrywaidd ac yn fenywaidd ar yr un pryd!
  • Mae gelen yn chwyddo 5 gwaith ei maint ar ôl sugno gwaed.
  • Pan fydd yr elen yn llawn, mae hi'n cwympo i ffwrdd.

gelod4.jpg

Mae gelod yn dal i gael eu gwerthu yn y farchnad mewn rhai gwledydd, fel Twrci. Llun: roman.petruniak

Dywediad da:

Rwy'n methu cael gwared ar Twm - mae e'n glynu fel gelen!

gelod5.jpg

Diarhebion iechyd:

A fynno iechyd, bid lawen (os ydych chi eisiau bod yn iach, rhaid i chi fod yn hapus)

Gwell iechyd na golud (mae iechyd yn bwysicach na chyfoeth)

Mae eli i bob dolur (mae rhywbeth i wella popeth)

Rhag pob clwyf: eli amser (mae amser yn gwella popeth)

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gelen (gelod) creaduriaid bach du sy'n sugno gwaed leech
llawfeddyg(on) meddygon sy’n gwneud llawdriniaeth surgeon
gwythïen (gwythiennau) mae'r gwaed yn llifo drwy'r rhain vein
golud cyfoeth wealth
eli rhywbeth i'w roi ar y croen i'w wella ointment
dolur poen ache
clwyf pan fydd y croen wedi'i dorri wound