Polio - Stori Jaci

Rhifyn 4 - Salwch
Polio - Stori Jaci

Roedd Jaci'n ferch fach yn y 1950au pan ddaeth brechiad yn erbyn polio i blant.

"Roedd llawer o rieni'n ofni rhoi'r brechiad i'w plant achos ei fod e'n rhywbeth newydd. Felly, doedd dim llawer o blant wedi'i gael e. Ond roedd fy mam eisiau i mi a'm chwaer wneud. Roedden ni wedi cael y brechiad y diwrnod cyn i ni fynd i barti pen-blwydd ffrind i ni yn Abertawe. Cawson ni amser hyfryd iawn yn chwarae gemau a bwyta bwyd parti.

"Yn fuan wedyn, cawson ni newyddion ofnadwy. Roedd pob un o'r plant eraill yn y parti wedi bod yn sâl; roedden nhw wedi dal polio. Ond roedd fy chwaer a minnau'n iawn oherwydd ein bod ni wedi cael ein brechu.

"Gwellodd y rhan fwyaf o'r plant, ond doedd un ferch fach ddim mor lwcus. Aeth ei braich yn ddiffrwyth a doedd hi ddim yn gallu ei defnyddio hi o gwbl. Rwy'n cofio ei gweld hi'n ceisio dal doli yn ei braich. Ond doedd hi ddim yn gallu; roedd hi'n gorfod defnyddio ei llaw arall i gydio ynddi'n iawn. Rwy'n cofio teimlo piti mawr drosti. Diolch byth bod fy mam wedi gwneud yn siwr ein bod ni wedi cael y brechiad."

polio2_662x292.jpg

Beth yw polio?

Mae polio'n glefyd cas iawn. Weithiau, mae'n gallu gwneud i bobl fethu symud eu cyhyrau'n iawn. Felly maen nhw'n methu cerdded neu anadlu hyd yn oed.

Mae plant wedi cael eu brechu yn erbyn polio ym Mhrydain ers y 1950au. Rydych chi, siwr o fod, wedi cael y brechiad pan oeddech chi'n faban. Mae plant yn dal i ddal polio mewn gwledydd eraill yn y byd, felly mae angen gwneud yn siwr fod pawb wedi cael eu brechu.

Lluniau, clocwedd o'r llun uchaf ar y chwith:

polio3.jpg

1. Plentyn mewn peiriant o'r enw 'iron lung' yn y 1950au. Roedd y peiriant yn helpu'r plentyn i anadlu ar ôl cael polio. otisarchives4's

2. Mae'r bachgen 16 oed hwn o Cambodia yn gorfod cael cadair olwyn i symud o gwmpas ar ôl cael polio. Cambodia Trust

3. Plentyn yn Guinée yng ngorllewin Affrica'n cael brechiad yn erbyn polio. Julien Harneis

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
brechiad(au) chwistrelliad i’ch cadw rhag mynd yn sâl immunisation, vaccination
haint (heintiau) afiechyd, salwch infection
brechu cael brechiad to immunize
diffrwyth ddim yn gallu symud paralysed