Dyma rai ffeithiau am ysmygu yng Nghymru:
Doedd neb wedi clywed am dybaco ym Mhrydain tan y 16eg ganrif. Byddai dynion yn ysmygu pib, cymryd tybaco powdr (snuff) ac yn ysmygu sigâr. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, daeth peiriannau oedd yn gwerthu tybaco, a dechreuodd llawer iawn o ddynion ysmygu.
Yn 1948, roedd 65% o ddynion yn ysmygu sigaréts. Er bod menywod wedi dechrau ysmygu sigaréts yn y 1920au, ar ôl yr Ail Ryfel Byd y dechreuodd nifer fawr ysmygu. Ers 1986, mae mwy o ferched ifanc na bechgyn yn ysmygu.
Tua hanner can mlynedd yn ôl, daeth prawf fod ysmygu'n achosi canser. Cyn hynny, roedd pobl yn meddwl bod ysmygu'n dda i chi.
Llun: Thomas Hawk
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ar gyfartaledd | term a ddefnyddir i ddisgrifio lefel neu raddfa ganolig rhywbeth | on average |
peiriannau gwerthu | peiriannau sy'n gwerthu pob math o bethau, o sigatéts i fferins | vending machines |
achosi | gwneud i rywbeth ddigwydd | to cause |