Arwres!

Mae’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn lle da i ddod o hyd i arwyr.

Mae rhai’n torri record y byd am gamp arbennig. Mae rhai’n fodelau rôl gwych ar gyfer pobl ifanc. Mae rhai’n gweithio’n galed iawn, iawn – maen nhw’n ymarfer yn galed ac yn byw bywyd llym er mwyn cyrraedd y brig. Mae rhai’n ceisio goresgyn problemau anodd ac anabledd er mwyn ennill medal. Mae rhai’n arwyr hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ennill. 

Yusra Mardini 

Dyma Yusra Mardini, nofiwr o Syria yn wreiddiol. Roedd hi wedi cystadlu dros y wlad honno ym Mhencampwriaethau Nofio Byd FINA yn 2012.

Yn 2016, fodd bynnag, roedd hi’n cystadlu yn nhîm y ffoaduriaid, tîm o bobl oedd wedi gorfod ffoi o’u gwledydd eu hunain oherwydd rhyfel. Enillodd hi ddim medal yn y Gemau Olympaidd. Chyrhaeddodd hi mo’r rownd gynderfynol yn ei champ hyd yn oed, ond eto roedd hi’n arwres – ac mae hi’n parhau’n arwres heddiw!

Dianc

Mae Yusra yn dod o Ddamascus yn wreiddiol, dinas yn Syria sydd wedi gweld llawer o ryfela erchyll yn ddiweddar. Er mwyn dianc yn 2015, teithiodd hi a’i chwaer, Sarah, o Ddamascus, i Beirut ac yna ymlaen i Istanbul, Twrci ac i Izmir, lle roedden nhw’n gobeithio croesi Môr y Canoldir i deithio i Lesbos, Groeg, ac i fywyd heddychlon, gwell. 

 

Pan gyrhaeddon nhw Izmir, gwelon nhw’r cwch oedd i fod i’w tywys nhw i ryddid. Cwch bach ar gyfer chwe pherson oedd e, ond mynnodd y bobl oedd yn trefnu’r daith eu bod nhw’n gwasgu 20 o bobl i mewn iddo. Roedd y cwch yn beryglus o lawn!

I wneud pethau’n waeth, hanner awr ar ôl gadael y lan, torrodd yr injan. Roedd ofn ar bawb gan nad oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n gallu nofio ac roedden nhw’n gwybod bod perygl y byddai’r cwch yn troi drosodd ac y bydden nhw’n boddi.

Neidiodd Yusra, Sarah a dynes arall - yr unig rai oedd yn gallu nofio – i’r môr ac, yna, am dair awr hir, buon nhw’n gwthio ac yn tynnu’r cwch bach nes iddo gyrraedd Lesbos yn ddiogel.

Ysbrydoliaeth

Mae’n amlwg bod Yusra’n berson ymarferol a dewr iawn. Gwelodd berygl ac ymatebodd ar unwaith.

“Pan fydd gennych chi broblem, does dim pwynt eistedd i lawr a chrio fel babi,” dywedodd.

Mae Yusra yn gobeithio cystadlu eto yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Japan. “Dw i eisiau dangos i bobl eich bod chi’n gallu cyflawni rhywbeth dim ots pa mor anodd yw’r daith,” meddai. “Ar ôl pob storm, daw dyddiau gwell.”

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
goresgyn cael y gorau ar, trechu to overcome
cyrraedd y brig ennill, bod yn llwyddiannus iawn to reach the top
ffoaduriaid lluosog ffoadur; pobl sy’n gorfod dianc o’u cartrefi oherwydd rhyfel refugees
erchyll ofnadwy, dychrynllyd terrible, dreadful
heddychlon ansoddair sy’n gysylltiedig â’r enw heddwch peaceful
tywys arwain to lead
mynnu cadw at ddymuniad arbennig heb fod yn fodlon newid to insist
cyflawni llwyddo to achieve