Ar ôl misoedd o drafod a dadlau, cynhaliwyd refferendwm BREXIT yn 2016. Refferendwm oedd hwn i benderfynu a fyddai Prydain yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu beidio.
Penderfynodd pobl Prydain o 52% i 48% eu bod nhw’n dymuno gadael tra, yng Nghymru, penderfynodd 854 572, sef 52.5% o’r bobl, dros adael, gyda 772 347, sef 47.5%, yn pleidleisio dros aros.
Ar ddiwedd y flwyddyn, rydyn ni’n parhau’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd ond bydd y broses o ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd yn dechrau ym mis Mawrth 2017 gyda’r bwriad o adael erbyn mis Mawrth 2019.
***
Lladdwyd cannoedd o bobl a dinistriwyd adeiladau di-ri wrth i gorwynt Matthew deithio o Haiti a Ciwba, drwy’r Bahamas ac i fyny arfordir dwyreiniol Gogledd America eleni. Gorfodwyd miloedd o bobl i adael eu cartrefi. Gwnaethpwyd difrod gwerth dwy filiwn (2 000 000 000) o ddoleri yn Haiti, un o wledydd tlotaf y byd.
***
Daeth tua 200 000 o bobl allan i groesawu tîm pêl-droed Cymru yng Nghaerdydd ar ôl eu llwyddiant ysgubol ym Mhencampwriaeth Euro 2016 ym mis Mehefin. Ar ôl methu â chyrraedd prif bencampwriaeth am 58 o flynyddoedd, cyrhaeddodd y tîm rownd gynderfynol Pencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc. Llongyfarchiadau calonnog iddyn nhw.
***
Llwyddodd gorila i ddianc o’i ffald drwy ddrws oedd heb ei gau’n iawn yn Sŵ Llundain. Gofynnwyd i’r cyhoedd adael y sŵ wrth i geidwaid yr anifeiliaid a heddlu arfog geisio dal Kumbuka. Yn ystod yr amser roedd e’n rhydd, aeth Kumbuka i grwydro ac i chwilota ac, ar ôl dod o hyd i botelaid fawr o sudd cwrens duon, yfodd bum litr. Symudwyd y gorila anferth yn ôl i’w ffald heb achosi unrhyw ddifrod.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
bwriad | rhywbeth rydych chi’n bwriadu ei wneud | intention |
dinistrio | distrywio | to destroy |
di-ri | nifer uchel – mor uchel mae’n anodd ei gyfrif | countless |
corwynt | gwynt cryf iawn | hurricane |
difrod | dinistr | damage |
ysgubol | ansoddair sy’n gysylltiedig â’r gair ysgubo | sweeping |
ffald | lle agored ar gyfer cadw anifeiliaid mewn sŵ | enclosure |
ceidwaid | lluosog ceidwad; pobl sy’n gofalu am anifeiliaid mewn sŵ | keepers |
arfog | yn cario arfau | armed |
chwilota | chwilio’n fusneslyd | to rummage |