Tica masala os gwelwch yn dda!

Rhifyn 40 - Blwyddyn gron
Tica masala os gwelwch yn dda!

Dyma eitem newyddion o fis Mai 2016.

Tica Masala os gwelwch yn dda!

Mae ysbyty anifeiliaid yn Tewkesbury newydd fod yn trin gwylan o Gymru. 

“Roedd yr wylan wedi syrthio i mewn i dwb o gyrri gwastraff tu allan i ffatri fwyd yn ne-ddwyrain Cymru,” eglurodd un o’r milfeddygon oedd yn gofalu amdani. “Mae’n siŵr ei bod hi wedi gweld darn o gig yng nghanol y cyrri a’i bod hi wedi hedfan i lawr i’w fwyta, ond achos bod y cyrri mor drwchus, aeth hi’n sownd ynddo.” 

Arogli’n wych

“Daeth hi aton ni mewn bocs ac roedd arogl hyfryd – arogl blasus iawn – yn dod ohono. Roedd eisiau bwyd arna i wrth i fi ei agor!” eglurodd y milfeddyg. “Roedd yr wylan yn lliw oren llachar fel lliw pwmpen ac roedd ei llygaid yn edrych fel botymau gwydr yn ei phen. Roedd hi’n edrych yn rhyfedd iawn, rhaid i fi ddweud!”

Yr wylan yn cael ei thrin

Gwyn fel yr eira

Erbyn hyn, mae’r wylan wedi cael cawod i olchi’r cyrri oddi arni ac mae ei phlu wedi cael eu golchi’n ofalus â sebon golchi llestri nes eu bod nhw’n wyn fel yr eira unwaith eto. 

Bydd rhaid iddi hi aros yn yr ysbyty am rai dyddiau ond pan fydd hi’n barod, bydd hi’n cael ei rhyddhau unwaith eto. 

Dyna ddysgu gwers i’r wylan – Nid aur yw popeth melyn! 

Ar ôl cael ei thrin

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tica masala math o gyrri tikka masala
milfeddyg meddyg sy’n trin anifeiliaid vet
trwchus tew thick
pwmpen llysieuyn mawr, lliw oren, poblogaidd iawn adeg Calan Gaeaf pumpkin
rhyddhau gollwng yn rhydd to release