Un o uchafbwyntiau’r haf, heb os nac oni bai, oedd y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro. Daeth pobl o bedwar ban y byd i redeg, neidio, nofio, marchogaeth, caiacio – a mwy, wrth gwrs. Ewch i Dasg 1.

Mae’r Gemau Olympaidd wedi newid llawer dros y blynyddoedd ac mae llawer o’r campau wedi newid hefyd.

Edrychwch ar y sleidiau hyn i weld rhai o’r campau sydd wedi diflannu o’r Gemau Olympaidd.

 

Ewch i Dasg 2.

 

 

Llun clip fideo © YouTube

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
uchafbwyntiau lluosog uchafbwynt; pwyntiau uchel, pethau da iawn highlights
heb os nac oni bai heb amheuaeth without a shadow of a doubt
o bedwar ban y byd o bob cornel o’r byd from the four corners of the earth
campau lluosog camp; chwaraeon lle mae angen sgiliau arbennig sports