Papur y Fro

Beth ydy hoff raglen deledu eich ci chi? Pobl y Cŵn efallai neu Rownd a Rownd yr Ardd neu un o raglenni Ci-w efallai? Beth ydy hoff sianel eich ci chi? BB-Ci efallai?

Cyn bo hir, bydd cŵn yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain pa sianel maen nhw’n ei gwylio. Os dydyn nhw ddim yn hapus gyda rhyw raglen ddiflas rydych chi’n ei mwynhau, byddan nhw’n gallu pwyso botwm i ddewis rhaglen arall a hynny heb unrhyw help gennych chi, diolch i ddyfais newydd – dyfais reoli’r teledu o bell ar gyfer cŵn.

Dog remoteLlun: Wagg

Mae’r ddyfais glas a melyn (hoff liw cŵn mae’n debyg!) wedi ei gwneud o blastig gwrth-ddŵr cryf ac arni mae botymau mawr mae Pero neu Rover neu Max yn gallu eu pwyso’n hawdd. Mae’r plastig yn ddigon trwchus ac yn ddigon cryf fel nad yw’r ci’n gallu cnoi’r weiars tu mewn.

Cŵn a thechnoleg

Cwmni Wagg a dylunwyr cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Preston sydd wedi datblygu’r ddyfais. Yn ôl un arbenigwr yn y maes, mae ymchwil yn dangos bod cŵn yn treulio mwy na naw awr yr wythnos yn gwylio’r teledu, sef tuag awr ac ugain munud bob dydd. Yn ogystal, mae 91% o berchnogion cŵn wedi dweud bod eu cŵn nhw’n eistedd gyda nhw ar y soffa i wylio’r teledu’n rheolaidd. Mae technoleg yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd rhai cŵn yn barod, felly, a byddai’n braf petaen nhw’n gallu rhyngweithio mwy yn dechnolegol – byddai hyn yn eu gwneud nhw’n fwy o -cs!

Ar ôl cyfnod o arbrofi gyda’r ddyfais, mae cwmni Wagg yn gobeithio cynhyrchu’r ddyfais a’i gwerthu i berchnogion cŵn. Bydd hyn yn siwr o wella ansawdd bywyd pob ci (o bosib!).

Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni, “Rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl yn teimlo’n euog pan maen nhw’n gadael eu cŵn ar eu pen eu hunain, felly bydd y ddyfais yma’n gwneud yn siŵr bod y cŵn yn ddiddig a’u bod yn cael pleser hyd yn oed pan maen nhw ar eu pen eu hunain.” Ci-wt!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dyfais rhywbeth sydd wedi ei ddyfeisio device
gwrth-ddŵr defnydd dydy dŵr ddim yn mynd drwyddo waterproof
trwchus tew thick
cynhyrchu gwneud to produce
llefarydd rhywun sy’n siarad ar ran rhywun arall neu ar ran mudiad spokesperson
diddig bodlon content