Uchafbwynt y flwyddyn i lawer o bobl oedd y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Rio de Janeiro yn ystod yr haf.
Ystyr “para” yn yr iaith Roeg yw “wrth ochr” neu “ochr yn ochr” a dyna beth yw’r Gemau Paralympaidd – gemau sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r Gemau Olympaidd.
Roedd Gemau Paralympaidd 2016 yn llwyddiannus iawn. Dyma’r ystadegau:
Ydych chi’n gwybod beth oedd y 23 camp? Ewch i Dasg 1.
Roedd y rhan fwyaf o’r campau’n debyg i’r campau yn y Gemau Olympaidd ond roedd 4 yn hollol wahanol:
Codi pwysau gan ddefnyddio rhan uchaf y corff yn unig – camp ar gyfer pobl ag anabledd corfforol
Roedd y medalau’n arbennig iawn yn y Gemau hyn, gan eu bod yn cynnwys deunyddiau oedd wedi eu hailgylchu. Roedd cloch ynddynt fel bod pobl â nam ar eu golwg yn gallu eu clywed – roedd y fedal aur yn gwneud mwy o sŵn na’r fedal efydd. Roedd ysgrifen braille arnyn nhw hefyd.
Dyma symbol y Gemau Paralympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016.
Mae’n dangos calon a symbol annherfynoldeb – sef y syniad o barhau am byth.
Mae’n symbol o egni diddiwedd i oresgyn anawsterau.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
uchafbwynt | y peth pwysicaf | highlight |
campau | lluosog camp; chwaraeon lle mae angen sgiliau arbennig | sports |
â nam ar eu golwg | sy’n methu gweld yn iawn | visually impaired |
deunyddiau | defnyddiau | materials |
efydd | metel lliw melyngoch | bronze |
annherfynoldeb | rhywbeth sydd ddim yn gorffen | infinity |
diddiwedd | heb ddiwedd | unending |
goresgyn | cael y gorau ar rywbeth, trechu rhywbeth | to conquer, get the bettr of |
anawsterau | lluosog anhawster; pethau anodd, problemau | difficulties |