Neithiwr ...
Tywyllwch. Tawelwch. Hapusrwydd.
Noson hyfryd o haf oedd hi. Noson gynnes braf a oedd, erbyn canol nos, yn hyfryd o gyfforddus gan fod awel fach ysgafn wedi dechrau chwythu i mewn drwy’r ffenest agored ar ôl gwres tanbaid y dydd.
Cydiais yn dynn yn y cynfas gwely, ei dynnu o gwmpas fy ysgwyddau a swatiais yn fodlon fy myd yn y gwely cyfforddus. Perffaith! Dechreuais bendwmpian.
Ond yna, clec ofnadwy wrth i’r teledu syrthio’n sydyn oddi ar wal yr ystafell wely.
Mwy o synau annaturiol wrth i ddrysau’r cypyrddau agor ac wrth i’r dodrefn ddechrau crynu, gan luchio poteli a bocsys blith draphlith ar hyd y llawr. Darnau caled o’r nenfwd yn disgyn yn ddisymwth ar y gwely a’r llawr. Llwch yn fy llygaid.
Yna, y profiad rhyfeddaf, mwyaf dychrynllyd erioed. Dechreuodd y ddaear grynu ac ysgwyd yn ddidrugaredd, fel peiriant golchi’n troelli dillad ar lawr anwastad.
Golau – roedd angen golau! Ble roedd y lamp? Clec arall a’r lamp yn deilchion ar y llawr!
Erbyn hyn roedd y plant yn sgrechian, felly dyma ruthro i’w hystafell, gafael ynddyn nhw a rhedeg nerth ein traeth drwy’r tŷ tywyll, gan geisio osgoi’r lympiau o sment a cherrig oedd yn tywallt i lawr arnon ni fel storm o genllysg mawr budr.
Allan i’r iard a rhedeg tuag at y car. Neidio i mewn a chychwyn yr injan. Troed ar y sbardun. Neidio ymlaen a gyrru i ffwrdd yn wyllt!
Yna ... stopio’n sydyn ... gan daro’n galed yn erbyn yr olwyn lywio ... oherwydd tu allan i’r iard doedd dim ffordd, dim ond tomenni o rwbel ymhob man – cerrig, coed, gwydr, dodrefn, eiddo personol a chyrff. Golygfa ôl-apocolyptaidd! Sŵn gweiddi, sgrechian a griddfan truenus ym mhob man.
“Dewch!”, gorchmynnais i’r plant. “Rhaid i ni fynd i’r cae!”
“Ond ...” dechreuodd Daniela.
“Dim “ond”. Dewch!” gwaeddais, ac i ffwrdd â ni, gan redeg nerth ein traed tuag at y cae.
Gafael yn dynn yn ein gilydd am oriau, heb ddweud un gair bron. Y ddaear a ninnau’n crynu rhwng tonnau gwyllt creulon o symudiadau a oedd yn dymchwel yr adeiladau, gan ddinistrio mwy a mwy ar ein hardal.
Hunllef! Yr hunllef waethaf posib!
***
Heddiw ...
Tro ar fyd. Dim eiddo. Dim cartref. Dim pentref. Dim cymdogion. Dim bodlonrwydd. Dim hapusrwydd.
Dim ond rhesi o bebyll glas yn gartref dros dro, a phlataid o basta gwyn yng nghwmni cymdogion newydd sydd wedi’u huno gan brofiadau erchyll neithiwr.Sleid 1: llun gan terremotocentroitalia / CC GAN
Sleid 2: llun gan terremotocentroitalia / CC GAN
Sleid 3: llun gan terremotocentroitalia / CC GAN
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
tanbaid | poeth iawn | scorching |
swatio | cwtsio | to snuggle |
bodlon fy myd | hapus, bodlon | content |
yn ddisymwth | yn sydyn | suddenly |
anwastad | heb fod yn wastad | uneven |
teilchion | darnau mân | small pieces, fragments |
griddfan | ochneidio | to moan |
dymchwel | troi drosodd, dinistrio | to overturn, destroy |
tro ar fyd | pethau wedi newid yn llwyr | complete change |