Fe allwch fy nhanio
ond nid wyf yn wn,
rwy’n help wrth ffarwelio
rhwng gwledydd mi wn.
Fe'm ganed yn Lisbon
wrth drafod wrth fwrdd
drwy eiriau nid ffrwydron,
heb arfau yn cwrdd.
Rwy'n rhan o gytundeb,
print, nid cig a gwaed,
os gadael yr Undeb
fy nhanio sydd rhaid.
Rwy'n waith i gyfreithwyr
sy’n pwyso pob gair,
rwy'n ias i gyfieithwyr
sy'n ffoli'n y ffair!
Rwy'n ddechrau ar y daith,
rwy’n ffordd i'r pen draw,
dwy flynedd – nid yw’n faith -
a’r diwedd a ddaw.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cytundeb | sefyllfa lle mae dwy ochr yn cytuno | agreement |
cyfreithwyr | arbenigwyr ar y gyfraith | lawyers |
cyfieithwyr | pobl sy'n gweithio mewn sawl iaith | translators |