Talu’n ddrud

Rhifyn 42 - Erthygl 50
Talu’n ddrud

Gan fod Prydain yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae cwmni Lego wedi cyhoeddi y bydd pris Lego yn codi 5 y cant yn ystod 2017.  Pa bethau eraill allai gael eu heffeithio gan danio Erthygl 50 tybed? 

Atebwch y cwestiynau hyn:

O ba wlad y daw Lego?

Ateb

Denmarc

 Nodwch o ba wlad y daw’r ceir canlynol:

  • Volkswagen
  • SEAT
  • Fiat
  • Renault
  • Dacia
Atebion
  • Volkswagen – Yr Almaen
  • SEAT – Sbaen
  • Fiat – Yr Eidal
  • Renault – Ffrainc
  • Dacia – Rwmania

O ba wledydd yn Ewrop y daw’r caws canlynol:

  • Brie
  • Caws Parma
  • Manchego
  • Edam
Atebion
  • Brie - Ffrainc
  • Caws Parma – Yr Eidal
  • Manchego – Sbaen
  • Edam – Yr Iseldiroedd

 O ba wledydd y daw’r cynnyrch melys canlynol:

  • Nutella
  • Haribo
  • Chupa Chups
  • Ferrero Rocher
Atebion
  • Nutella - Yr Eidal
  • Haribo - Yr Almaen
  • Chupa Chups - Sbaen
  • Ferrero Rocher - Yr Eidal

Edrychwch ar y ddolen yma am fwy o wybodaeth:

http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-36624655

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
caws parma caws caled a sych sydd yn cael ei roi ar ben pasta parmesan cheese