
Dydd Hapusrwydd Rhyngwladol
Pryd: Dydd Llun, Mawrth 20
Beth: Ysbrydoli pobl eraill; gwneud pobl eraill (a chi’ch hun) yn hapus
- Ers 2013, mae Dydd Hapusrwydd Rhyngwladol yn cael ei ddathlu ym mis Mawrth.
- Mae’n cael ei drefnu gan y Cenhedloedd Unedig er mwyn dangos pa mor bwysig yw teimlo’n fodlon ac yn hapus. Mae hyn yn bwysig iawn mewn byd prysur lle mae cymaint o bobl yn rhuthro o gwmpas ac mewn byd lle mae llawer o anhapusrwydd weithiau.
- Y syniad yw dangos caredigrwydd tuag at bobl eraill. Drwy wneud hynny, bydd y bobl hynny’n teimlo’n hapusach ond byddwch chi hefyd yn teimlo’n well.
- Mae’r pethau lleiaf yn gallu gwneud i berson deimlo’n well ac mae pawb yn gallu cymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn. Beth am …?
- wenu’n garedig ar rywun ar y stryd
- dweud gair caredig wrth rywun
- postio negeseuon sy’n ysbrydoli ar y we
- cysylltu â ffrind neu aelod o’r teulu dydych chi ddim wedi ei weld ers amser
- cyfansoddi cân hapus
- helpu rhywun
- ysgrifennu darn sy’n ysbrydoli a’i anfon i’r papur bro
- gwneud animeiddiad hapus ar gyfer Dydd Hapusrwydd Rhyngwladol
- Beth am drefnu digwyddiad arbennig yn yr ysgol neu’r coleg neu yn y gwaith?

YSBRYDOLWCH RYWUN.
YSBRYDOLWCH EICH HUN.