Bod yn Gymro/Cymraes

Rhifyn 46 - Loteri Bywyd
Bod yn Gymro/Cymraes

Mae cyfres deithio y ‘Lonely Planet’ wedi enwi Gogledd Cymru fel y bedwaredd ardal orau yn y byd i ymweld â hi yn 2017, diolch i’n hamgylchedd naturiol rhyfeddol ac atyniadau arbennig i dwristiaid fel y weiren wib yn Zip World, Bethesda a Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Conwy. Mae Lonely Planet hefyd yn nodi fod Gogledd Cymru yn cynnig bwyd da, cyfleoedd i wylio’r sêr a gwledd o dreftadaeth. Gogledd Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig sydd wedi ei henwi ar restr y Lonely Planet.

Ar y llaw arall, ym 2015, cyhoeddodd ‘think tank’ yr ‘Intergenerational Foundation’ (IF) fod Cymru, ac yn enwedig Gogledd Cymru, yn un o’r llefydd gwaethaf yn y Deyrnas Unedig i bobl ifanc fyw. Mae IF yn nodi diffyg gwaith a chyfleoedd, cyflogau isel a methu prynu neu rentu tŷ fel rhesymau pam fod pethau’n anodd i bobl ifanc yng Nghymru.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
amgylchedd y byd sydd yn uniongyrchol o’n cwmpas environment
cyflogau yr arian a delir i bobl am wneud gwaith wages
braint cyfle sydd ond yn dod i rai unigolion mewn bywyd privilege
Prif Weinidog y person sy’n arwain llywodraeth Prime Minister