Darn Gwybodaeth

Daeth caethwasiaeth i ben yn America ym 1865, ond yn anffodus roedd rhaid i Americanwyr croenddu ddisgwyl canrif arall i ennill hawliau cyfartal. Yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd mudiad hiliol o’r enw’r ‘Ku Klux Klan’ yn ymosod ar ac yn curo pobl ddu.  Roedd pobl ddu hefyd yn cael eu harwahanu yn gyhoeddus, oedd yn golygu na allent ddefnyddio’r un cyfleusterau â phobl wyn, e.e ysgolion, a pharciau.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au, daeth y Mudiad Hawliau Sifil i fodolaeth o dan arweiniad dyn arbennig iawn – Dr Martin Luther King. Roedd Dr King a’i ddilynwyr yn benderfynol o herio’r syniad fod pobl wyn yn well na phobl ddu, ac ar ôl brwydro’n galed iawn, fe ddechreuodd pethau newid:

  • Ym 1954, ennillodd Rev Brown yr hawl i anfon ei blentyn i ysgol i blant gwyn
  • Ym 1955, gwrthododd Rosa Parks roi ei sedd bws i berson gwyn
  • Yn 1957, aeth naw disgybl du i ysgol i bobl groenwyn yn Little Rock, Arkansas ond roedd angen gwarchodaeth filwrol arnynt.
  • Ym 1963, gorymdeithiodd 250,000 o bobl i’r ‘Lincoln Memorial’ i wrando ar araith enwog Dr Martin Luther King, ‘I Have a Dream…’

Erbyn y 1960au, roedd gan Americanwyr croenddu fwy o hawliau cyfreithiol:

  • Rhoddodd y Ddeddf Hawliau Sifil (1964) derfyn ar arwahanu cyhoeddus
  • Rhoddodd y Ddeddf Hawliau Pleidleisio (1965) yr hawl i bob Americanwr(aig) du bleidleisio
  • Ym 1968, sicrhaodd y Ddeddf Tai Teg nad oedd modd gwahaniaethu ar sail lliw croen yn y maes tai

Ond er i bethau newid er gwell, mae’n ffaith hyd heddiw nad yw pobl ddu wedi ennill cydraddoldeb economaidd yn America, ac maent dal yn grŵp sydd o dan anfantais gymdeithasol yn y wlad. Mae llai o Americanwyr du yn graddio o’r brifysgol ac mae lefel uchel iawn o ddiweithdra ymysg poblogaeth ddu America.

Yn ogystal mae straeon wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar iawn am gamdriniaeth yr heddlu o bobl ddu yn America.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
caethwasiaeth pan fydd rhywun yn cipio rhywun arall yn erbyn ei ewyllys a’i orfodi i weithio drosto slavery