Mae rhai plant yn y byd yn cael eu geni i deuluoedd cyfoethog iawn, ond mae’r rhan fwyaf o blant y byd yn byw mewn tlodi. Mae’r gwahaniaeth rhwng cyfoeth a thlodi yn broblem ym mhob gwlad yn y byd, ond mae rhai gwledydd ble mae tlodi yn fwy o broblem, ac mae hyn yn cael effaith mawr ar blant.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datblygu set o hawliau plant sydd yn ceisio sicrhau fod pob plentyn yn y byd yn cael yr un hawliau, beth bynnag fo’u cefndir.
Enw’r ddogfen bwysig hon ydy ‘Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’.
Datblygwyd y Confensiwn ym 1989 ac mae bron pob gwlad yn y byd wedi arwyddo’r Confensiwn.
Mae’r Confensiwn yn cydnabod fod rhai gwledydd yn dlotach na’i gilydd ac felly’n nodi y dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i sicrhau’r hawliau hyn ar gyfer holl blant y byd.
Dyma rai o’r hawliau a restrir yn Y Confensiwn:
Erthygl 3: Dylai oedolion wneud yr hyn sydd orau i ti.
Erthygl 6: Mae gen ti hawl i fyw.
Erthygl 14: Mae gen ti hawl i feddwl beth fynni di a dilyn pa grefydd bynnag rwyt ti eisiau.
Erthygl 15: Mae gen ti hawl i wneud ffrindiau.
Erthygl 17: Mae gen ti hawl i gasglu gwybodaeth o’r radio, papurau newydd, y teledu, llyfrau, ac yn y blaen, o unrhyw le yn y byd.
Erthygl 19: Ddylai neb dy frifo mewn unrhyw ffordd.
Erthygl 24: Mae gen ti hawl i iechyd da.
Erthygl 27: Mae gen ti hawl i fwyd, dillad a lle i fyw.
Erthygl 28: Mae gen ti hawl i addysg.
Erthygl 30: Mae gen ti hawl i fwynhau dy ddiwylliant dy hun, dilyn dy grefydd dy hun a defnyddio dy iaith dy hun.
Erthygl 31: Mae gen ti hawl i chwarae.
Erthygl 37: Ddylet ti ddim cael dy roi yn y carchar.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Y Cenhedloedd Unedig | y corff sy'n cadw trefn rhwng gwledydd y byd | United Nations |
confensiwn | cyfarfod i drafod materion pwysig sydd wedyn yn cael eu rhoi ar bapur i eraill gael eu dilyn | convention |
hawl | yr hyn y gall unigolyn ddisgwyl y mae’n cael ei wneud mewn bywyd | right |