Corwyntoedd

Rhifyn 5 - Y Tywydd
Corwyntoedd

Sut maen nhw'n cael eu henwi?

Tra roedd UDA yn dal i glirio llanast Irene a delio gyda Lee roedden nhw'n cadw llygad ar Katia! A chyn bo hir, mae'n siwr, bydd Tammy, Vince a Whitney ar y newyddion! Ond sut mae corwyntoedd yn cael eu henwi?

Mae rhoi enw person i gorwynt yn hytrach na rhif yn haws ei gofio ac yn llai cymhleth. Ond pwy sy'n eu dewis? Canolfan Corwyntoedd Genedlaethol UDA yn Miami ddechreuodd yr arfer yn 1953. Erbyn heddiw mae'r ganolfan yn cael ei rheoli gan Fudiad Meteorolegol y Byd sy'n rhan o'r Cenhedloedd Unedig. Mae ganddi bum pwyllgor mewn rhannau o'r byd lle ceir corwyntoedd a nhw sy'n dewis yr enwau.

Ym mis Mawrth neu fis Ebrill bob blwyddyn penderfynir pa stormydd yn ystod y flwyddyn aeth heibio sydd wedi bod yn drychinebus ac wedyn chaiff yr enwau hynny mo'u defnyddio eto.

Dilyna'r rhestr drefn yr wyddor, felly mae storm gyntaf pob blwyddyn yn dechrau gydag 'A'.

Wyddoch chi...?

Doedd dim trefn ar enwi stormydd yn Oes Fictoria. Cafodd un ei henwi yn Antje am iddi rwygo mast llong o'r enw hwnnw. Câi eraill eu henwi ar ôl eu lleoliad.

Yn y Caribî, roedden nhw'n cael eu henwi ar ôl seintiau os oedden nhw'n digwydd ar ddiwrnod y sant hwnnw.

Nid yw'r llythrennau Q, U, X, Y a Z yn cael eu defnyddio oherwydd y prinder enwau sy'n dechrau gyda'r llythrennau hyn. Felly mae uchafswm o 21 storm y flwyddyn cyn mynd trwy'r llythrennau i gyd.

Pryd y dechreuodd yr arferiad?

Yn ôl Koji Kuroiwa, pennaeth rhaglen stormydd Mudiad Meteorolegol y Byd, milwyr UDA yn yr Ail Ryfel Byd ddefnyddiodd enwau pobl ar stormydd gyntaf: 'Roedden nhw'n hoffi dewis enwau cariadon, gwragedd neu famau. Cyflwynwyd yr egwyddor yn swyddogol yn 1953 a dechreuwyd defnyddio enwau dynion yn 1970. Rydyn ni'n cael llawer o geisiadau bob blwyddyn yn gofyn i ni ddefnyddio enw gwraig neu gariad. Ar y llaw arall, bydd rhai merched yn anhapus iawn o glywed storm yn cael ei henwi ar eu hôl!'

Teithiau holl seiclonau trofannol y byd rhwng 1985-2005. Gallwch weld Prydain yng nghornel dde uchaf y llun.

h2_llun2.jpg

 

Categorïau corwyntoedd

tabl.jpg

 

Corwyntoedd mawr UDA

Mae America yn cael llawer mwy o gorwyntoedd na ni. Dyma rai o'r rhai gwaethaf i ddigwydd yno erioed.

Corwynt Carla: 10 Medi 1961, ar arfordir Texas. Symudwyd tua 500,000 o bobl o'r ardal. Amcangyfrifwyd bod gwyntoedd o 150 mya yng nghanol y corwynt. Bu farw 46 o bobl.

Corwynt Betsy: 8 Medi 1965 yn Florida ac ar arfordir Louisiana. Lladdwyd 75 a chafwyd gwyntoedd o 160 mya.

Corwynt Camille: 17 Awst 1969 ar arfordir y Gwlff. Cafwyd llifogydd yn Virginia hefyd. Cafwyd gwyntoedd o 200 mya a bu farw 250 o bobl.

Corwynt Celia: 3 Awst 1970 yn Texas. Difrodwyd parc carafannau gan wyntoedd cryf. Cyfanswm o 11 o bobl yn marw.

Corwynt Gilbert: 16 Medi 1988. Cafwyd gwyntoedd o 160 mya. Aeth trwy Jamaica, dros ran o México nes cyrraedd Texas ac Oklahoma fel storm o law. Bu farw 318.

Corwynt Andrew: 24 Awst 1992 yn ne Fflorida ac yna Louisiana. Gorfodwyd mwy na miliwn o bobl i adael yr ardal. Y corwynt mwyaf costus erioed hyd hynny.

Corwynt Floyd: Medi 1999. Roedd cymaint o law nes y bu'n rhaid cyhoeddi bod trychineb mewn 13 talaith. Costiodd $500 miliwn i gael pethau i drefn.

Corwynt Katrina: Awst 2005. Y storm fwyaf niweidiol a chostus erioed yn hanes America. Achoswyd gwerth $75 biliwn o niwed yn ardal New Orleans. Bu farw 1,577 yn Louisiana, 238 yn Mississippi, a 7 yn ne Florida.

Corwynt Rita: Medi 2005, Texas a Louisiana. Achosodd 7 marwolaeth a gwerth $10 biliwn o ddifrod.

Llun rhywfaint o'r difrod yn New Orleans ar ôl Corwynt Katrina.

h2_llun3.jpg

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
trychinebus creu niwed mawr disastrous
egwyddor rheol, crêd principle