Chwarae gyda natur

Rhifyn 5 - Y Tywydd
Chwarae gyda natur

h3_llun1.jpg'Trueiniaid ardal Sindh, Pakistan yn cael eu taro unwaith yn rhagor gan lifogydd.' Penawdau fel hyn oedd yn ein papurau newydd ym mis Medi 2011. Roedden nhw'n adlewyrchu'r penawdau yn 2010.

Ar 5 Medi 2011, cyhoeddwyd bod 2 filiwn o bobl wedi dioddef oherwydd y llifogydd a bod 85 wedi eu lladd - y mwyafrif gan adeiladau yn syrthio neu drwy gael eu trydaneiddio.

Buan y cafwyd adroddiadau bod y llifogydd wedi effeithio ar o leiaf 5.5 miliwn o bobl wrth i afonydd orlifo wedi glawogydd trwm. Bu'n rhaid i bobl ddianc o'u cartrefi i chwilio am loches ar ochrau'r ffyrdd, mewn ysgolion ac ar gledrau rheilffyrdd.

Argyfwng yn Pakistan

Yna cyhoeddwyd bod y llifogydd wedi effeithio ar 8.8 miliwn o bobl yn nhalaith Sindh y wlad a 14,000 yn nhalaith Balochistan, gydag oddeutu 6.8 miliwn acer o dir wedi ei ddifetha - ardal yr un maint â Haiti.

h3_llun2.jpg

Am yr ail flwyddyn yn olynol roedd ffermwyr yn colli eu bywoliaeth, "Roedd fy nghnwd siwgwr yn barod i'w gynaeafu ac rydw i'n dal i geisio dod dros golledion y llynedd. Does wybod beth fydd yn digwydd rwan," meddai Majeed-ud-Din, 40 oed o'i bentref yn Khairpur, un o'r ardaloedd a oedd wedi dioddef fwyaf.

Yn yr wythnosau'n dilyn y llifogydd, cafwyd apeliadau am arian gan fudiadau fel Achub y Plant a rhybuddion bod bywydau tair miliwn o blant mewn perygl. Plant fel Mushtak. Pan aeth ei dad ag ef i'r clinic yn y lloches doedd ganddo ddim digon o arian i dalu am feddyginiaeth.

Yn ôl David Wright, cyfarwyddwr Cronfa Achub y Plant yn Pakistan, "Mae'r plant yn byw mewn amgylchiadau enbyd ac mae'r teuluoedd mewn perygl o newynu gan fod eu bwyd wedi ei 'sgubo ymaith gan y llifogydd a does ganddyn nhw ddim arian. Y peth gwaethaf ydy eu bod yn yfed dŵr wedi ei lygru gan garthion."

Perswadiodd apeliadau fel hyn drigolion 'cyfoethog' y byd i gyfrannu tua £13 miliwn i fudiadau fel Cronfa Achub y Plant ac Oxfam er mwyn iddyn nhw allu rhoi bwyd, lloches a gofal meddygol i'r rhai oedd yn dioddef.

Gwaith mudiadau gwirfoddol

h3_llun3.jpgMae mudiadau gwirfoddol fel Oxfam ac Achub y Plant yn helpu pobl i ddelio â thywydd eithafol ledled y byd.

Yn Ne Affrica mae ffermwyr wedi cael eu hyfforddi i blannu cnydau sy'n tyfu'n sydyn ac sy'n llai dibynnol ar y glaw annibynadwy.

Yn Bangladesh mae'r pentrefwyr yn creu gerddi llysiau sy'n arnofio fel bod eu cynhaliaeth yn cael ei harbed rhag llifogydd.

I geisio achub eu tir rhag tonnau'r stormydd mae cymunedau'n plannu mangrofau trwchus ar hyd yr arfordir yn Fiet-Nam.

Tywydd eithafol ledled y byd

Mae'n ddigon gwir mai gennym ni, bobl freintiedig y Gorllewin, y daw'r arian. Ond ai lleddfu ein cydwybod ydyn ni? Ai arnon ni mae'r bai am y newid yn yr hinsawdd? Os nad ydych yn credu ei fod yn newid gofynnwch i Turaqulov, ffermwr yn Tajikistan.

"Rydw i'n meddwl bod y tywydd wedi cynhesu yn y bedair mlynedd diwethaf ac mae'n effeithio ar ein cnydau. Rydyn ni'n colli 30 y cant ohonynt i wahanol afiechydon."

h3_llun4.jpgAnlwcus? Triwch annheg. Pam? Oherwydd y gwledydd cyfoethog sy'n cynhyrchu'r nwyon tŷ gwydr sy'n achosi'r newid yn yr hinsawdd a'r gwledydd tlotaf sy'n dioddef fwyaf. 

Pan fo llifogydd yn digwydd ym Mhrydain, mae cymorth parod ar gael i ni. Mae'n anodd iawn i bobl mewn gwledydd tlawd gael dau ben llinyn ynghyd, felly does ganddyn nhw ddim cynilion i'w defnyddio mewn argyfwng. Hefyd, mae deiet gwael, diffyg carthffosiaeth a diffyg gofal iechyd effeithiol yn lledaenu afiechydon.

Cynhesu byd-eang

Yn anffodus, nid yw arweinyddion y byd yn delio'n dda iawn â'r cynhesu byd-eang. Mae'r sefyllfa'n enbyd yn barod ond mae trychineb ar y gorwel. Mae'n ffaith fod y lefelau carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd yn uwch heddiw nag y buon nhw yn y 420 mlynedd diwethaf.

Efallai mai gweld beth fydd yn digwydd i'r tywydd yng Nghymru wnaiff ein perswadio i newid ein ffordd o fyw.

Mae'r ail fap yn dangos sut bydd hi yn 2080 pe bydden ni'n lleihau ein allyriadau. Mae'r trydydd map yn dangos sut bydd hi pe na fydden ni'n lleihau ein allyriadau.

h3_llun5_4.jpg

Mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu gan Ymchwil Coedwigaeth o dan y drwydded hon.

Beth ydy'r rhagolygon i weddill y byd os na thorrwn i lawr ar allyriadau erbyn 2080? Bydd lefel y môr yn codi 50 cm a bydd dwywaith cymaint o bobl yn dioddef llifogydd - y mwyafrif ohonynt yn ne a de-ddwyrain Asia. Pe bai lefel y môr yn codi 1 metr byddai Bangladesh, er enghraifft, yn colli 17.5 y cant o'i thir. Bydd prinder dŵr yn gadael 3 biliwn o bobl yn y Dwyrain Canol ac India heb ddŵr a bydd sychder a llifogydd yn achosi prinder bwyd, yn chwalu cartrefi ac yn lledaenu afiechydon.

Ydy hynny yn eich ysgwyd? Bydd ar fudiadau angen llawer iawn mwy o arian wedyn! Oni fyddai'n well i ni i gyd bwyso ar arweinyddion y byd i weithredu gyda'n gilydd i ostwng allyriadau ac i ninnau hefyd wneud ein rhan o ddydd i ddydd?

Mae amser yn brin.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
trydaneiddio anafu neu ladd drwy sioc drydan to electrocute
wedi torri eu glannau gorlifo to have burst their banks
lloches lle i gadw'n ddiogel shelter
fy nghnwd (cnwd) planhigion a gaiff ei tyfu i roi bwyd crop
cynaeafu hel, casglu cnydau to harvest
llygru halogi, maeddu pollute
mangrof(au) math o lwyn sy'n tyfu mewn mannau mwdlyd mangrove(s)
carthffosiaeth system ddraenio system ddraenio
allyriad(au) nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir emission(s)