Cynffon Katia yn taro’r Alban

Rhifyn 5 - Y Tywydd
Cynffon Katia yn taro’r Alban

Mae rhannau o'r Alban yn cael eu chwipio gan wyntoedd stormus wrth i gynffon corwynt Katia daro Prydain. Mae pobl yn cael eu hannog i gadw draw o'r arfordir ac i gymryd gofal ar y ffyrdd.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhoi rhybudd melyn yn dweud y bydd teithio adref o'r gwaith yn anodd. Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd, 'Bydd yn rhaid i'r cyhoedd wylio rhag i'r daith adref o'r gwaith gymryd mwy o amser gan fod coed wedi syrthio ac adeiladau wedi cael difrod.'

Gwynt a glaw

Cafwyd gwyntoedd o 74 milltir yr awr (119 cilometr yr awr) yn Aonach Mor yn yr Ucheldiroedd a dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol y Cairngorms bod gwyntoedd o 70 mya (113 cya) wedi eu cofnodi yno.

Rhagwelir y bydd gwyntoedd o 55 mya (86 cya) yn Glasgow a 75 mya (121 cya) yng Nghaeredin ac yng ngogledd Dumfries.

Mae perygl ychwanegol o law trwm yng ngorllewin yr Alban a disgwylir rhwng 50 mm (2 fodfedd) a 100 mm (4 modfedd) mewn rhai rhannau.

Yn Dumfries a Galloway mae coeden wedi syrthio ar y ffordd o Dalbeattie i Sandyhills yn Colvend. Daeth y gwifrau trydan i lawr hefyd a bu'r ardal heb drydan am oddeutu wyth awr.

Dywedodd heddlu Swydd Ayr fod coed wedi disgyn ar lawer o ffyrdd yn yr ardal a dywedodd heddlu Lothian a'r Gororau fod coeden wedi syrthio ar ben garej yn Strathearn Place yng Nghaeredin.

Trafferthion teithio

Dywedodd llefarydd ar ran ScotRail, "Mae'r gwasanaeth trenau rhwng Glasgow Central a Largs/Ardrossan wedi dioddef oherwydd y storm ond rydym wedi trefnu gwasanaeth bws arbennig o Kilwinning."

Mae'r gwasanaeth fferi i ac o Oban, Arran, Islay a Cumbrae wedi ei ganslo. Felly hefyd cychod Stena o Stranraer i Belfast a dywedodd P&O na fydd ei wasanaeth Fastcraft o Cairnryan yn rhedeg ddydd Llun a dydd Mawrth.

e2_llun1.jpg

Taith Corwynt Katia o'i chychwyn i'r de o Ynysoedd Cape Verde nes taro'r Alban.

Mae cyfyngiad gyrru o 30 mya ar Bont Tay a dim ond ceir gaiff groesi Pont Forth lle mae cyfyngiad o 40 mya.

Yn y rhannau o gadwyn Mynyddoedd Nevis sy'n agored i feicwyr mynydd yn y gaeaf nid yw'r cadeiriau lifft yn cael eu defnyddio.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
chwipio taro'n galed to whip
llefarydd rhywun sy'n siarad ar ran rhywun arall spokesperson