Does dim ar y ddaear mor lân a gwyn
 mantell o eira dros ysgwydd y bryn;
Mantell o eira yn glogyn clyd,
Pan fo'r gaeaf y rhynnu hanner y byd.
Pwy tybed fu'n brodio'r lliain main
A'i bwytho â gemau a pherlau cain?
Gemau a pherlau fel sêr ar dân!
Siôn Rhew fu'n brodio â'i bwythau mân.
Pwy tybed fu'n cerfio'r grisial oer
A'i hongian ar frigau yng ngolau'r lloer?
Clychau a brigau nadd ar goed?
Onid Syr Barrug fel erioed?
Pwy tybed sy'n tiwnio ei dôn mor bêr
Ar bibonwy'r bondo nes dawnsio o'r sêr?
Canu ar bibau, a'r iâ fel glain?
Hen Gerddor y Gogledd biau'r si a'r sain.
Pwy tybed sy'n printio'r patrymau tlws
Ar lwybr yr ardd ac ar garreg y drws?
Pwy sy'n printio'r patrwm â'i draed bach twt?
Y Robin druan, sy'n byw ar y clwt.
Pwy sy'n baeddio baeddu'r wenwisg laes,
Difwyno ei thegwch ar ffridd ac ar faes?
Hen Wynt y Gorllewin a'r Deheuwynt, ill dau, -
Y nhw sy'n braenu ei brodwaith brau.
Does dim ar y ddaear mor lân a gwyn
 mantell o eira dros ysgwydd y bryn;
Mantell o eira yn glogyn clyd,
Cyn dyfod dau reibiwr a'i sarnu i gyd.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
mantell | clogyn, gŵn | robe, gown |
brodio | gwnïo patrymau ar ddefnydd | to embroider |
pibonwy | darn o rew sy'n hongian | icicle |
bondo | y rhan o'r to sy'n cwrdd â'r waliau | eaves |
glain | carreg sgleiniog | gem |
baeddio | mentro | to dare |
difwyno | baeddu, llygru | to contaminate |