c2_llun1.jpgSyllai Hywel yn ofnus trwy ffenest y bwthyn gwyliau. Er ei bod yn ganol dydd, roedd yn dywyll ac roedd cymylau mawr duon yn rowlio drwy'r awyr ac yn cuddio'r haul. Byddai aros adref wedi bod ganmil gwell na hyn, meddyliodd.

Gallai glywed y taranau'n rhuo yn y pellter. Edrychodd tuag at ei rieni i chwilio am gysur ond roedd golwg boenus arnyn nhw hefyd.

Roedd ei dad wedi treulio'r hanner awr ddiwethaf yn cadw'r dodrefn gardd yn y garej ac roedd ei fam wedi llenwi'r bath a phowlenni'r gegin a'r ystafell molchi gyda dŵr. Dyna'r paratoadau arferol cyn corwynt.

Doedd dim dwywaith fod un ar y gorwel. Sylwodd Hywel fod gwynt yn codi, oherwydd roedd y clychau gwynt oedd fel arfer yn symud yn ôl ac ymlaen yn hamddenol yn taro yn erbyn ei gilydd yn wyllt wallgo.

                                                                  ***

 

c2_llun3.jpgRoedd ei rieni'n gwrando ar lais ar y radio yn cyhoeddi,"...mae corwynt ar ei ffordd. Rhaid i bawb gysgodi mewn man priodol. Rydym yn disgwyl gwyntoedd o 74 milltir yr awr..."

Heb wastraffu amser, rhuthrodd ei dad i gau'r caeadau pren ar y ffenestri a chaeodd ei fam holl ddrysau'r tŷ. Aeth y tri ohonyn nhw i'r cyntedd di-ffenest, lle roedd y waliau gryfaf. A dyna lle'r arhoson nhw - yn gwrando'n astud ar y radio batri ar rywun yn egluro sut roedd corwyntoedd yn cael eu creu.

"Cyn corwynt, mae'n debyg, bydd rhaid cael stormydd o fellt a tharanau'n dod at ei gilydd a thymheredd o 26.5 °C (79.7 °F) o leiaf yn y môr. Rhaid cael gwyntoedd ysgafn uwch ben y storm a dim ond pan fyddan nhw'n cyrraedd 74 milltir yr awr fydd y storm yn cael ei hadnabod fel corwynt. Yn hemisffer y gogledd, bydd y gwynt yn troi'n wrth-glocwedd ac mae ei ganol yn cael ei alw'n 'llygad'..."

Roedd Hywel wedi clywed hyn i gyd o'r blaen yn yr ysgol. Roedd fel gwylio paent yn sychu, meddyliodd. Roedd ar bigau'r drain eisiau mynd i nôl ei ipod ond wnai ei rieni ddim gadael iddo...

c2_llun2.jpg                                                                  ***

 

Ymhen hir a hwyr, cyhoeddodd y dyn ar y radio y byddai'r gwaethaf drosodd cyn i'r storm gyrraedd eu bwthyn nhw. A gwir y gair, oherwydd pan agorodd Hywel gaeadau'r ffenestri roedd yr haul yn tywynnu a dim ond ychydig o goed oedd wedi disgyn yn yr ardd. Diolch byth, meddyliodd. Fe ga i fynd ar fy ipod nawr...

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cysgodi amddiffyn neu arbed rhywbeth rhag niwed to shelter
caeadau pren pethau wedi'u gosod y tu allan i ffenest y gellir eu cau wooden shutters
corwynt storm sydd â gwynt pwerus hurricane
gwrth-glocwedd symud yn erbyn cyfeiriad y cloc anti clockwise