Mae llaw y gaeaf oer
Yn cloi pob nant a llyn
A bysedd bach y coed
I gyd mewn menig gwyn
Daw'r adar at y drws
I brintio'r eira tlws.
Nid oes mewn llwyn na gardd
Un nodyn bach o gân
A saif y coed yn syth
Mewn gwisg o berlau glân.
Daw dawns yr haul cyn hir
I'w troi yn arian clir.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Saif y coed | Mae'r coed yn sefyll | - |