Curiad calon

Rhifyn 53 - Y Galon
Curiad calon

PENAWDAU’R DYDD:

 

BETH? SUT? WIR?

 

Oeddech chi’n gwybod bod eistedd yn llonydd a myfyrio am ryw 15 munud bob dydd yn gallu helpu gydag iechyd y galon?

BETH YW'R PRAWF?

Cafodd astudiaeth ei gwneud am 5 mlynedd gyda chleifion oedd yn dioddef o glefyd y galon. Gofynnwyd i’r cleifion eistedd yn gyfforddus am 15 munud bob dydd, gan ymlacio, cau eu llygaid ac ailadrodd sŵn o’r enw ‘mantra’ yn y pen.

Canlyniad: Lleihau’r perygl o drawiad ar y galon a strôc o 48%.

Pam? Lleihau’r pwysau gwaed; lleihau effaith straen.

Oeddech chi’n gwybod fod curiad eich calon yn arafu pan fyddwch chi’n cysgu?

BETH YW'R PRAWF?

Mae gwyddonwyr wedi gallu profi fod curiad y galon yn gallu arafu o 24 i 14 curiad y funud pan fyddwch chi'n cysgu. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor drwm rydych chi'n cysgu a pha mor gyflym mae eich calon chi’n curo yn ystod y dydd fel arfer.

Caynlyniad: Mae calon person ifanc yn arafu o 24 curiad y funud a chalon person oedrannus yn arafu o 14 curiad y funud ar gyfartaledd.

Pam? Mae signalau oddi wrth y nerfau sy’n dweud wrth y galon am guro’n gyflym yn arafu.

Oeddech chi’n gwybod bod diffyg cwsg yn gallu effeithio ar iechyd y galon?

BETH YW'R PRAWF?

Mae astudiaethau dros 25 mlynedd wedi dangos mai cysgu rhwng 6 a 9 awr y dydd sy’n gwneud y mwyaf o les i’r galon.

Canlyniad: Mae pobl sy’n cysgu llai na 6 awr y dydd 48% yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon. Mae pobl sy’n cysgu mwy na 9 awr y dydd 38% yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon.

Pam? Dim cytundeb gan wyddonwyr eto, ond awgrym efallai nad yw’r pwysau gwaed yn disgyn digon neu’n disgyn gormod.

Oeddech chi’n gwybod mai’r bobl fwyaf bywiog yw’r rhai â’r curiad calon cyflymaf?

BETH YW'R PRAWF?

Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod cysylltiad rhwng bod yn effro a bywiog a chyflymder curiad y galon. Pan fydd angen i chi fod yn fywiog ac yn sionc, bydd curiad eich calon chi’n cyflymu.

Canlyniad: Gall pobl sydd â churiad calon sy’n cyflymu ymateb yn fwy effro i bethau.

Pam? Oherwydd y negeseuon sy’n cael eu hanfon o’r ymennydd i’r galon.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
myfyrio meddwl, pwyso a mesur yn dawel yn y meddwl (to) meditate
mantra gair neu sŵn sy'n cael ei ailadrodd i helpu myfyrio mantra
straen pwysau ar y meddwl, gofid stress
diffyg dim digon o rywbeth lack of