Haia, Daya.
Galwad ffôn.
Haia, Daya.
Ti’n mynd mas heno?
Fi'n mynd i aros yn nhŷ Lyn. Be’ ti’n wneud?
Cyrri.
Sori?
Cyrri. Fi’n coginio cyrri drwy’r dydd – drwy’r bore … drwy’r prynhawn … drwy’r nos.
Pam?
Fi yn yr ŵyl.
O, ie, fi’n cofio nawr. Shwt mae’n mynd?
Mae’n waith caled. Fi’n helpu i baratoi’r llysiau … serfo … a clirio’r mess.
Oes llawer o fess ‘te?
Wel, mae rhai pobol jyst yn towlu’r cartons cyrri gwyn ar y llawr ar ôl pennu. Dy’n nhw ddim yn rhoi nhw yn y bins.
Ofnadw!
Ac, wrth gwrs, mae rhai pobol yn byta gormod o gyrri ac maen nhw’n chwydu ar y stryd.
Ych a fi! Dim ond cyrri sy yn yr ŵyl?
Ie – ond mae gwahanol fathau o gyrri ’ma. Cyrri o wahanol rannau o’r byd.
Mae’n swnio’n grêt.
Ody, mae’r bwyd yn lyfli. Fi wedi blasu cyrri newydd sbon – o Jamaica. Gorgeous!
Beth arall sy’n digwydd?
Mae experts yn dangos sut i wneud cyrri …
Jyst y peth ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn.
Ti’n iawn. Mae pobol isie dysgu sut i gwcio rhywbeth i gynhesu nhw.
Be arall sy’n digwydd?
Mae lot fowr o stondinau cyrri, wrth gwrs a stondinau’n gwerthu cynhwysion ar gyfer gwneud cyrri. Mae pobol yn chwarae cerddoriaeth ac mae dawnswyr ’ma hefyd. Mae gweithgareddau i’r plant …
So, ti yn mwynhau.
Odw a na’dw. Mae’r ŵyl yn wych ond fi ddim yn hoffi’r holl waith.
Fi’n gallu deall ’ny.
Mae pawb yn hapus iawn. Mae miloedd o bobol wedi bod ’ma – mae’n gyfle da i wneud y siopa Nadolig ac i gael pryd da o fwyd yn eitha rhad yr un pryd. Mae Dad wrth ei fodd achos mae’n gyfle da i hysbysebu’n tŷ byta ni.
Mae Mam a Dad isie dod i’ch tŷ byta chi wythnos nesaf.
O, pam?
Pen-blwydd.
Pen-blwydd dy fam, ife?
Na, pen-blwydd Dad.
O.K. ’na i weud wrth Dad. Hei, rhaid i fi fynd. Mae angen pilio winwns.
O.K., wela i di wythnos nesa.