Ysgol Gyfun y Llan
Llan-aber
Ceredigion
SA89 6TT
Y Cyfarwyddwr
Dylunio Dawnus
Llan-aber
Ceredigion
SA67 5YF
Annwyl Mr Williams,
Ysgrifennaf ar ran pwyllgor Gŵyl Gwylanod yr ysgol i ddiolch i chi am eich cefnogaeth i’r ŵyl, 5-7 Mai. Diolch i’ch cefnogaeth chi a busnesau a mudiadau lleol eraill, a, diolch i roddion gan bobl oedd yn methu dod i’r penwythnos, llwyddom i godi dros £20 000 i’r hosbis leol.
Credaf fod pawb wedi mwynhau’r ŵyl yn fawr. Roedd y sesiwn bandiau yn y Neuadd nos Wener yn gyffrous tu hwnt ac roedd hyn yn gyfle gwych i roi llwyfan i leisiau newydd yr ardal. Roedd hi’n amlwg fod digon o hwyl i’w gael ar y dydd Sadwrn hefyd, gyda’r plant yn gwneud gweithgareddau amrywiol ar y traeth yn yr heulwen braf a’r bobl ifanc a’r oedolion yn mwynhau gwahanol gystadlaethau morol, heb sôn am y stondinau crefftau a bwyd y môr a oedd ar hyd yr harbwr. Trueni bod y tywydd wedi ein gorfodi i symud llawer o’r gweithgareddau o’r harbwr a’r traeth i’r ganolfan hamdden ar y dydd Sul ond diolch byth ein bod wedi cynllunio ar gyfer pob math o dywydd!
Bydd darn am yr ŵyl ar S4C yn y dyfodol agos. Byddaf yn rhoi gwybod i chi pryd yn union pan gaf y wybodaeth oddi wrth y cwmni fydd yn darlledu.
Mae fy nghyd-ddisgyblion a minnau wedi mwynhau trefnu’r ŵyl yn fawr ac rydym wedi cael llawer o brofiadau gwerthfawr wrth wneud hyn. Roedd cael cefnogaeth busnesau lleol fel chi yn help mawr. Felly, diolch unwaith eto.
Yn gywir,
Lee Evans
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ar ran | dros bobl eraill | on behalf of |
mudiadau | lluosog mudiad; grwpiau o bobl sy'n rhannu'r un syniad ac sydd, o bosib, yn ceisio cydweithio | movements |
amrywiol | gwahanol fathau | varied |
darlledu | dangos ar y teledu | (to) broadcast |
fy nghyd-ddisgyblion | y disgyblion eraill | my fellow pupils |