Mae’r haul wedi bod yn bwysig erioed ac mae pobl wedi’i wylio’n ofalus dros y canrifoedd.

Yn yr oesoedd cynnar, roedd pobl yn addoli’r haul ac yn cael eu dychryn pan fyddai’n diflannu adeg eclips.

Ers dechrau’r 17eg ganrif, mae gwyddonwyr wedi astudio’r haul gan ddefnyddio telesgop, gan sylwi ar y golau a’r gwres sy’n llwyddo i gyrraedd y Ddaear.

Erbyn heddiw, rydyn ni’n defnyddio technoleg arbennig ar y Ddaear ac yn y gofod i astudio’r haul yn fanwl iawn.

Ond, ar hyd yr oesoedd ac hyd yn oed heddiw, mae pobl yn addoli’r haul.

WEL, WEL! : Mewn rhannau oerach y byd, mae’r haul yn cael ei addoli tra bod pobl mewn rhannau cynhesach o’r byd yn tueddu i addoli’r lleuad!

WEL, WEL! : Mae’r haul fel arfer yn cael ei ystyried fel ffurf gwrywaidd a’r lleuad fel ffurf benywaidd.

Mae sôn fod yr Eifftiaid yn meddwl am yr haul fel duw mor gynnar â’r 14eg ganrif Cyn Crist – er eu bod nhw’n byw mewn rhan gynnes o’r byd! Roedden nhw’n credu fod Amun, y duw oedd wedi creu popeth, yn byw yn yr haul.

Weithiau, mae’r haul a’r lleuad yn cael eu disgrifio fel pâr duwiol a rhieni’r Ddaear, yn enwedig mewn gwledydd fel Indonesia a Zambia.

Byddai’r Americaniaid brodorol yn addoli’r haul trwy ddawnsio.

Ond, roedd eclips yr haul yn dychryn pobl 'slawer dydd. Ar y dechrau, roedd llawer yn credu mai arwydd o dymer ddrwg y duwiau oedd eclips.