Y gwir yw, mae’r haul yn DDA i chi! Ffaith!

Wrth gwrs, mae’r haul yn dda i ni am ei fod yn rhoi golau a gwres. Ond mae un peth pwysig iawn arall mae’r haul yn ei roi i ni hefyd - FITAMIN D.

Ffeil-o-ffaith:

Fitamin D: Un o’r pethau mwyaf anhygoel y mae’r haul yn ei roi i ni.

Pelydrau: Pelydrau uwchfioled B (UVB) yr haul, sy’n bwysig wrth greu Fitamin D.

Sut mae’n cyrraedd y corff: Mae’n cael ei sugno i mewn drwy groen noeth a’i newid i ffurf y gall y corff ei ddefnyddio i’w helpu pan fydd yr haul yn uchel yn yr awyr, yn enwedig yn yr haf.

Faint o haul sydd angen: Fel arfer, dim ond rhyw hanner awr o olau haul sydd eisiau ar y corff i gael digon o Fitamin D. Does dim angen cael lliw haul neu losg haul i’w gael. Gall faint o Fitamin D sy’n cael ei gynhyrchu o belydrau’r haul ddibynnu ar yr adeg o’r dydd, ble rydych chi’n byw ac ar liw eich croen.

Adeg y dydd: Gall y croen greu mwy o Fitamin D o dan heulwen canol dydd.

Ble rydych chi’n byw: Yr agosaf i’r Cyhydedd yr ydych chi’n byw, y mwyaf o Fitamin D y mae’n bosib i’ch croen ei greu drwy’r flwyddyn.

Lliw eich croen: Gall croen golau greu Fitamin D yn gynt na chroen tywyllach.

Arwynebedd y croen: Y mwyaf o groen noeth sy’n agored i’r haul y mwyaf o Fitamin D y mae’r corff yn gallu ei greu.

Pwysigrwydd: Mae Fitamin D yn bwysig er mwyn creu a chynnal yr esgyrn. Mae’n helpu’r corff i ddefnyddio calsiwm yn ogystal â helpu gyda gwaith pwysig arall.

Diffyg Fitamin D: Mae’n bosib i’r corff gael mwy o Fitamin D drwy gymryd tabledi neu ychwanegiadau i fwyd. Fitamin D3 yw’r math gorau o ychwanegiad i’w gymryd. Ond, all bwyd yn unig ddim rhoi digon o Fitamin D i’r corff.

Bwydydd sy’n cynnwys ychydig o Fitamin D:

  • pysgod seimllyd
  • iau/afu eidion
  • melynwy
  • llaeth a sudd oren
  • grawnfwydydd
  • llaeth powdr babanod.

Atebion eraill: Mae’n bosib prynu lampau arbennig sy’n gallu helpu i greu Fitamin D. Mae’r rhain yn defnyddio pelydrau Uwchfioled B (UVB) i ddynwared effaith yr haul. Er eu bod nhw’n gallu helpu rhai pobl sy’n dioddef o broblemau oherwydd diffyg digon o haul, dydyn nhw ddim yn gallu creu digon o Fitamin D ar gyfer y corff. Mae amserydd ar y lampau yma fel arfer rhag i’r croen gael ei niweidio gormod gan y pelydrau Uwchfioled. Fel arfer, mae 5 munud yn ddigon i’r croen dan y fath lampau.

PERYGL!

Gormod o haul = Llosg haul!

Llosg haul: Niwed i’r croen sy’n cael ei achosi gan ormod o belydrau uwchfioled.

Symptomau: Y croen yn goch, yn boeth, yn boenus ac, yn yr achosion gwaethaf, yn codi’n bothelli.

Perygl: Yn gallu arwain at gancr y croen.

Ffyrdd o osgoi: Cadw allan o olwg yr haul pan mae ar ei gryfaf. Defnyddio eli haul i amddiffyn y croen rhag effaith y pelydrau uwchfioled niweidiol.

Triniaeth: Defnyddio clwtyn oer ar y rhannau o’r croen sydd wedi’u heffeithio. Cael cawod oer yn gyson. Defnyddio eli i oeri’r croen – yn enwedig un sy’n cynnwys aloe vera ac ati. Os yw’r niwed yn ddrwg iawn, mae’n bwysig mynd at y meddyg am help.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
calsiwm mineral sydd i'w ganfod yn y corff, yn enwedig mewn esgyrn a dannedd calcium
grawnfwydydd bwydydd o hadau, er enghraifft, gwenith a barlys cereals
Y Cyhydedd y llinell ddychmygol o gwmpas y Ddaear, hanner ffordd rhwng Pegwn y De a Phegwn y Gogledd, lle mae'r Haul ar ei gryfaf The Equator