Oes rhywun yn gallu fy helpu i os gwelwch yn dda? Dw i’n chwilio am gytundeb ffôn newydd.
Dim problem.
Dw i wedi cael pregeth gan fy rhieni yn dweud bod angen i fi ystyried “gwerth am arian”. Maen nhw’n dweud bod fy nghytundeb ffôn i ar hyn o bryd yn rhy ddrud.
Beth wyt ti’n talu ar hyn o bryd?
Dw i’n talu £29 y mis a £20 am y darn llaw.
Bobl bach! Faint o funudau wyt ti’n ei gael?
Dw i’n cael 1000 o funudau a 500 o negeseuon testun.
A faint o ddata?
2GB.
Faint yw hyd y cytundeb?
24 mis.
Oes cynnig arbennig?
Dim erbyn hyn. Roeddwn i’n cael 1GB yn ychwanegol am y chwe mis cyntaf.
Mae'r cytundeb hwn yn ddrud iawn.
Dyna beth mae fy rhieni i'n ddweud!
Mae cytundebau rhatach na hynna ar gael ond i ti chwilio.
Dw i wedi bod yn chwilio a dw i wedi ffeindio dau gytundeb posib.
Beth ydy’r opsiynau?
Opsiwn 1
Cytundeb 24 mis am ugain punt y mis, gyda’r wyth mis cyntaf yn hanner pris a’r darn llaw am ddim.
Mae hynna tipyn yn rhatach. Faint o ddata wyt ti’n gallu cael?
3.5GB.
Faint o funudau?
3500 o funudau a negeseuon diderfyn. Beth wyt ti'n feddwl?
Oes gen ti opsiwn arall?
Oes. Opsiwn 2: Cytundeb 18 mis am £12 y mis ond rhaid talu am y darn llaw - £10 y mis am y 6 mis cyntaf a £15 y mis am weddill y cytundeb.
Faint o funudau, negeseuon testun a data?
2GB o ddata a galwadau a negeseuon testun diderfyn.
Mae hynny’n well na’r cytundeb sy gen ti ar hyn o bryd!
Dw i wedi bod yn ystyried cytundeb talu wrth fynd hefyd. Mae Mam yn meddwl bod hyn yn syniad da achos fydda i ddim yn cael biliau mawr. Pan fydda i wedi gwario’r credyd i gyd, fydda i jyst ddim yn gallu defnyddio’r ffôn nes y bydda i’n talu mwy. Mae’n ffordd dda o reoli faint dw i’n gwario.
Ydy, ond mae’n gallu bod yn ddrutach i ti os nad wyt ti'n cael y cytundeb cywir. Wyt ti wedi gweld cytundeb talu wrth fynd sy’n apelio?
Ydw. £15 am 1 GB, 700 o funudau a negeseuon testun diderfyn ond mae’n rhaid prynu’r ffôn o flaen llaw a chael y SIM ac mae hyn yn gallu costio tua £200. Mae’n apelio oherwydd galla i ddod allan o’r cynllun yma unrhyw bryd dw i eisiau lle mae’r cytundebau eraill yn fy nghlymu i i mewn am gyfnod arbennig o amser.
Dw i’n meddwl bod angen i ti eistedd i lawr a chymharu’r cytundebau yma gyda’i gilydd i weld pa un sydd orau i ti. Meddylia am faint o ddata wyt ti angen, er enghraifft. Wyt ti’n defnyddio’r ffon i chwarae gemau? Wyt ti angen gwneud llawer o alwadau ac ati?