Pa mor h-ap-us ydych chi?
Pa mor h-ap-us ydych chi gyda'ch ffôn symudol - os oes gennych chi un?
Pa mor h-ap-us ydych chi gyda'r apiau sydd ar eich ffôn symudol - os oes gennych chi ffôn wrth gwrs?
Does gen i ddim ffôn a dw i’n hapus iawn, diolch yn fawr.
Does gen i ddim ffôn ond dw i ddim yn hapus o gwbl achos mae gan fy ffrindiau i gyd ffôn.
Pam nad oes gen ti ffôn?
Dydy fy rhieni i ddim yn meddwl bod angen ffôn arna i ar hyn o bryd a dydyn nhw ddim eisiau talu am rywbeth sydd ddim ei angen arna i.
Digon teg – ond beth am gynnig talu am ffôn dy hun?
Sut? Does gen i ddim arian.
Gallet ti gynilo.
... a gallet ti wneud gwaith rhan-amser efallai i ennill arian.
Ond pam fasai Alys eisiau ffôn?
Achos mae'n ddefnyddiol. Rwyt ti'n gallu siarad â dy ffrindiau, er enghraifft ...
Dw i'n gallu siarad gyda fy ffrindiau heb ffôn. Dw i'n eu gweld nhw yn yr ysgol a dw i'n byw yn agos atyn nhw.
... ac rwyt ti'n gallu chwarae gemau ...
Ond dw i'n gallu chwarae gemau heb ffôn.
... ac rwyt ti'n gallu gwylio ffilmiau ...
Ond dwi'n gallu gwylio ffilmiau - yn well - ar y teledu a'r cyfrifiadur ...
... ac rwyt ti'n gall cael hwyl gydag apiau - ap cadw'n heini, er enghraifft.
Dw i'n rhedeg, yn chwarae tennis ac yn mynd i'r ganolfan hamdden. Dw i'n heini iawn - heb ffôn!
Sut mae dy wallt di'n edrych?
Mmm?!? Pardwn?
Wel, os wyt ti'n cael problemau gyda dy wallt, mae ap ar gael i roi help i ti.
O, grêt!?!? Wel, mae jyst rhaid i mi gael ffôn nawr!
Mae'n rhoi cyngor ar sut i steilio dy wallt os yw hi'n wyntog neu'n oer iawn neu'n boeth iawn neu'n bwrw glaw ...
O - defnyddiol iawn !!!??
A sut mae dy anadl di?
Yn ffres fel mintys, diolch yn fawr. Pam wyt ti'n gofyn?
Wel, mae dyfais fach ar gael sy’n gallu dweud wrthot ti os ydy dy anadl di’n drewi! Rwyt ti’n anadlu i mewn i ddyfais fach blastig ac yna, gyda help bluetooth, bydd dy ffôn symudol di’n dweud wrthot ti oes gen ti broblem! Clyfar!
“Clyfar”? Diangen os wyt ti’n gofyn i fi. Os wyt ti’n brwsio dy ddannedd di bob bore a bob nos does dim problem!
Wel, beth am yr ap yma ’te – Runpee! Dychmyga beth mae’r ap yma’n gallu wneud.
Dim diolch - dw i ddim eisiau dychmygu!
Gwranda - wyt ti'n hoffi mynd i'r sinema?
Ydw, pam?
Wyt ti eisiau mynd i’r toiled weithiau – ar ganol ffilm?
Ddim fel arfer, ond pam wyt ti’n gofyn?
Wel, os wyt ti eisiau mynd i’r tŷ bach ar ganol ffilm, mae’r ap yma’n dweud wrthot ti pryd yn union i fynd.
Grêt – dyna jyst beth dw i eisiau! Sut ydw i wedi gallu byw am 13 o flynyddoedd heb yr ap yma?
Mae’n ffantastig. Os wyt ti’n gwylio ffilm yn y sinema ac rwyt ti’n teimlo dy fod ti angen mynd i’r tŷ bach, mae’r ap yma’n gallu dweud wrthot ti pryd mae’r adeg orau i fynd. Mae’n dweud wrthot ti pan does dim byd llawer yn digwydd ar y sgrin ac felly rwyt ti’n gallu rhedeg allan a …
O, diolch yn fawr!! Dyna reswm da dros brynu ffôn symudol a chael apiau gwahanol yntê. Rhaid i fi ruthro i lawr i’r siop ffonau ar unwaith!