Oeddech chi'n gwybod?

Rhifyn 57 - Ffonau Symudol
Oeddech chi'n gwybod?

Mae gan dros 80% o bobl y byd ffôn symudol.

Fel arfer, mae defnyddwyr ffonau symudol yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn chwarae gemau ac yn rhyngweithio’n gymdeithasol.

Mae tua 74% o ddefnyddwyr ffonau symudol yn defnyddio’u ffôn i siopa.

Mae mwy o bŵer cyfrifiadurol (computing power) mewn ffôn symudol nag yn y cyfrifiadur helpodd Apollo 11 i lanio ar y lleuad yn 1969.

Llun: 5927 NASA - Neil Armstrong © NASA

Ym Mhrydain, mae tua 100,000 o ffonau symudol yn syrthio i mewn i doiled bob blwyddyn.

Mae’ch ffôn chi’n frwnt – neu’n fudr – iawn! Mae mwy o facteria ar ffôn symudol nag ar sedd y toiled (tua 10 gwaith yn fwy!) neu handlen toiled (tua 18 gwaith yn fwy!!). Faint o facteria? Yn ôl rhai arbenigwyr, mae tua 25,000 o facteria ar bob modfedd sgwâr!

 

Mae’n bosib gwefru batri ffôn symudol gydag wrin.

[Rhaid defnyddio silindrau sy’n llawn micro-organebau arbennig. Mae’r rhain yn bwydo ar bethau yn yr wrin ac yn cynhyrchu electrons. Yna, mae’r electrons yn cael eu troi i mewn i drydan ar gyfer gwefru ffonau …

… OND …

… peidiwch â thrio hyn eich hun!!!]

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
rhyngweithio cysylltu neu weithio gydag eraill (to) interact
yn gymdeithasol gyda phobl eraill social
pŵer cyfrifiadurol maint cof cyfrifiadur computing power
gwefru creu pŵer ar gyfer batri (to) charge
micro-organebau anifeiliaid neu blanhigion bach iawn micro-organisms