F’annwyl chwaer,
Bydd derbyn gair gennyf yn brofiad annisgwyl iawn i ti. Yn wir, dyma’r tro cyntaf i mi bostio llythyr at unrhyw un. Gan fod stampiau du newydd ar gael am 1 geiniog ers yr wythnos diwethaf, meddyliais y byddai’n beth da i mi bostio fy nymuniadau gorau atat ar gyfer dy ben-blwydd gan mai dyma’r unig ffordd y gallaf gysylltu â thi.
Gobeithio bod y teulu’n cadw’n iach. Rhaid bod y plant yn tyfu’n gyflym a phrin y byddwn yn eu hadnabod gan nad wyf wedi gweld Siôn a Dafydd ers pum mlynedd. A yw’r baban newydd wedi ei eni eto? Os felly ai merch neu fachgen ydyw? A yw’n cymryd ar dy ôl di neu Deio?
Rydym yn iach yma. Mae’r bechgyn hynaf yn mynd i’r ysgol ac mae eu sgiliau ysgrifennu, darllen a chyfrifo yn datblygu’n dda. Mae’r ystafell lle y dysgant yn addas iawn gan fod ynddi glôb i’w cynorthwyo i ddeall ble mae’r gwahanol wledydd, a mapiau a darluniau ar y waliau i’w helpu i ddysgu. Mae ambell lyfr yno hefyd.
Mae’r plant ieuaf wrth fy nhraed wrth i mi ysgrifennu atat, y ddau hogyn ieuaf yn chwarae gyda marblis ac mae Lisa tu allan yn chwarae hopsgotsh. Rydym wrth ein bodd yn treulio amser gyda’n gilydd fin nos yn canu o gwmpas y piano ac yn chwarae gemau bwrdd neu gardiau.
Hoffwn petaem yn medru siarad a chysylltu’n fwy aml, ond mae’r pellter rhyngom yn ein rhwystro. Ceisiaf gysylltu eto, yn y cyfamser, fy nymuniadau gorau i ti a’r teulu.
Cofion
Gwenno, dy annwyl chwaer
Annwyl Dad,
Diolch am eich llythyr. Mae’n swnio fel petai pethau’n eitha da yn y barics a’ch bod wedi gwneud ffrindiau. Rydych yn edrych yn olygus iawn yn y llun anfonoch chi ohonoch chi yn eich iwnifform!
Does dim llawer o newyddion. Mae plant o Lundain wedi dod i fyw yn Bryn Golau achos bod y ddinas yn cael ei bomio. Nid ydynt yn hapus gan eu bod yn colli eu teuluoedd ac ni wyddant a ydynt yn fyw neu beidio. Rydym yn gwneud ein gorau i wneud iddynt deimlo’n hapus drwy chwarae tu allan gyda hwy a mynd â hwy am dro o gwmpas yr ardal. Rydym wedi bod â hwy i’r sinema i wylio ffilm hefyd. Roedd ffilm newyddion cyn y brif ffilm ac felly roeddem yn gallu cael y newyddion diweddaraf am y rhyfel.
Mae Mam yn helpu ar Fferm y Bryn. Maent yn tyfu llysiau yn y caeau nawr gan nad oes llawer o fwyd yn y siopau. Mae siopa’n anodd - dim dillad newydd, dim llawer o gig, dim llawer o fwyd! Mae Mam yn mynd i giwio weithiau os ydyw’n clywed bod ffrwythau yn y siop ond, yn aml iawn, mae’r ffrwythau wedi eu gwerthu cyn iddi gael cyfle i’w prynu.
Mae Cynthia a’i ffrindiau’n mynd allan i ddawnsio bob wythnos gyda’r milwyr sy’n gwersylla yn Bron Felen. Mae hi wedi cael benthyg record a rhyw beiriant rhyfedd i’w chwarae gan un o’r milwyr ac mae hi’n chwarae’r record dro ar ôl tro … dro ar ôl tro … - yr un hen gân o hyd … o hyd! Mae’n codi gwrychyn Mam a fi!
Bob nos rydym yn eistedd o flaen y tân yn gwrando ar y radio – er mwyn clywed y newyddion. Pryd bydd y rhyfel yma’n gorffen a phryd byddwn yn eich gweld chi eto? Dw i’n dyheu am eich gweld chi ac am gael siarad â chi eto.
Caru chi!
Eunice
18 Rhagfyr, 2017
Annwyl ddyddiadur,
Cyrhaeddodd cerdyn Nadolig a’r llythyr blynyddol oddi wrth Wncwl John y bore yma ac roedd Mam wrth ei bodd i dderbyn ei newyddion – ond roedd hi’n hiraethu hefyd am gael gweld ei brawd a siarad â fe. Dywedodd fod dros ddeng mlynedd ers iddo symud i Seland Newydd i fyw. Mae’n bosib y bydd yn dod draw i Gymru yn ystod yr haf y flwyddyn nesaf ond bydd e’n ysgrifennu yn nes at yr amser i roi’r manylion i ni.
Cawson ein hanrheg Nadolig heddiw - wythnos yn gynnar! Teledu du a gwyn! Mae Mam yn dweud byddwn ni’n gallu gwylio rhaglenni Cymraeg a Saesneg ar ddwy sianel. Bobl bach, byddwn ni’n gallu dewis pa raglenni rydyn ni eisiau gwylio! Nid ydym yn cael ei wylio tan Ddydd Nadolig gan mai dyma’n hanrheg Nadolig!
Rhaid i fi wneud prosiect dros wyliau’r Nadolig (diolch, Mrs Jones Cymraeg!) ac felly es i i’r llyfrgell heno i chwilio am lyfrau ar y Plygain. Doedd dim un llyfr addas yno ac felly mae’r llyfrgellydd yn mynd i archebu llyfr o gangen arall. Bydd yn cyrraedd o fewn yr wythnos, mae’n debyg. Gobeithio, wir, neu ni fyddaf yn gallu gwneud fy ngwaith a bydd Mrs Jones Cymraeg yn flin.
Es i gyda Mam i’r caban ffonio heno i archebu bwyd o siop Williams yn Aberystwyth. Bydd yn barod i’w gasglu ddydd Sadwrn. Byddwn ni’n cael pob math o ddanteithion ar gyfer y Nadolig (gobeithio!)
Wel, nid oes mwy o newyddion ac nid oes dim byd arall i’w wneud, felly nos da!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cymryd ar ôl | edrych neu ymddwyn fel | (to) take after |
ieuaf | mwyaf ifanc | youngest |
marblis | peli bach gwydr | marbles |
barics | canolfan ar gyfer milwyr | barracks |
codi gwrychyn | gwneud rhywun yn flin | (to) annoy, anger |
blynyddol | bob blwyddyn | annual |
hiraethu | dyheu am | (to) long for |
cangen | adran neu ganolfan arall | branch |
danteithion | pethau blasus | delicacies |