“Mwynhewch. Ffoniwch pan fyddwch chi’n barod i fi ddod i’ch casglu chi.” Dyna eiriau olaf Mam wrth iddi yrru i ffwrdd a gadael y pedwar ohonon ni tu allan i’r sinema. Oedd, roedd dathliad fy mhen-blwydd wedi cyrraedd, ar ôl wythnosau o aros amdano!
“Barod?” gofynnais i’n eiddgar.
“Barod.” atebodd Matt a Cheng.
“Erin?” gofynnais. Dim ateb. “Erin?” Dim ateb eto. “Erin, wyt ti’n barod?” gofynnais eto, yn uwch.
Edrychodd i fyny o’i ffôn. “Wyt ti’n barod?” gofynnais eto.
“Ydw. Wrth gwrs,” ac i mewn â ni i wylio’r ffilm.
“Cofiwch ddiffodd eich ffonau,” dywedodd y llais ar y sgrin ar ôl i ni eistedd.
“Diffodd ein ffonau?!? Dim perygl” dywedodd Matt. “Dw i’n hapus i’w roi e ar silent ond ei ddiffodd? Byth!”
A dyma’r ffilm yn dechrau – ffilm arswyd llawn dirgelwch. Dyna lle roeddwn i’n cuddio’n llwfr tu ôl i ’nghot yn disgwyl i’r dihiryn neidio allan ar y prif gymeriad. Ond Erin a Matt? Roedd eu pennau nhw’n gwyro tuag at eu sgriniau bach yn hytrach na chyffro’r sgrin fawr.
***
“Gwylia!!!” gwaeddais i ar Matt wrth groesi’r ffordd i’r maes parcio, ar y ffordd allan o’r sinema. Sgrech teiars yn stopio a dyn yn codi ei ddwrn tuag aton ni.
Roeddwn i wedi ffonio Mam bum munud yn gynt ac roedd hi’n gyrru i mewn i’r maes parcio i’n casglu.
“Sori – neges gan Ben. Sgoriodd e ddwy gôl y prynhawn ’ma,” eglurodd Matt.
“Grêt,” atebais. “Ond gawn ni jyst canolbwyntio ar beth sy’n digwydd nawr - plîs?”
“Sori,” dywedodd Matt eto, gan anfon neges sydyn ar ei ffôn.
I mewn â ni i’r car.
“Mae popeth yn barod gartre,” dywedodd Mam. “Mae’r gwelyau wedi eu gwneud a’r pizzas blasus yn y ffwrn yn barod.”
“Gwych. Dw i ar lwgu,” dywedodd Cheng, ac i ffwrdd â ni am noson o fwynhau yn ein tŷ ni.
“Pen-blwydd hapus iawn i ti,” dywedodd Mam wrth iddi roi’r gacen ar y bwrdd o ’mlaen.
“Mae’n edrych yn hyfryd,” dywedais.
“Beth am gael llun?” awgrymodd Cheng. Ar hynny, tynnodd ei ffôn o’i boced, tynnodd lun a rhoiodd y ffôn yn ôl yn ei boced.
“Wyt ti eisiau darn?” gofynnodd Mam i Matt.
Ar ôl rhai eiliadau, cododd Matt ei lygaid o’r gêm ar ei ffôn, sylweddolodd mai gyda fe roedd Mam yn siarad ac atebodd yn frysiog, “O … gwych … diolch yn fawr iawn.”
Erbyn hyn, roedd Erin ar goll yn llwyr yn ei ffôn – yn edrych ar luniau o Lisa a Becca yn dawnsio ym mharti Lois. “O, maen nhw mor lwcus – maen nhw wedi mynd i barti Lois heno. Maen nhw’n cael amser gwych yn …”
Sylwodd ar y boen ar fy wyneb i a derbyniodd ddarn o gacen gan Mam.
“Pam wyt ti’n gwneud hynna?” gofynnodd Cheng, a oedd yn mwynhau ei gacen, i Matt, a oedd yn edrych ar ei ffôn yn gyson.
“Beth?”
“Edrych dy ffôn bob dwy funud,” atebodd Cheng.
“Dw i ddim …”
“Wyt, rwyt ti’n edrych arno bob dwy funud.”
“Efallai bod rhywun yn trio cysylltu.”
“Ond rwyt ti’n cael gwybod gan y ffôn pan fydd rhywun yn cysylltu, on’d wyt ti?”
“Ydw, ond mae’n well gwirio hefyd – rhag ofn fy mod i ddim yn cael gwybod. Fyddwn i ddim eisiau colli neges bwysig.”
Ar ôl ffilm arall (gyda dau ohonon ni’n gwylio’n eiddgar a’r ddau arall yn rhannu eu sylw rhwng y sgrin fawr a’r sgriniau bach), i ffwrdd â ni i’r gwely.
“Gwelwn ni chi yn y bore,” dywedais wrth Matt a Cheng ac i mewn â fi i’r ystafell roeddwn i’n mynd i’w rhannu gydag Erin. Roedd ei llygaid yn sownd i’w ffôn symudol.
“Mae Lisa a Becca wedi cyfarfod â dau fachgen golygus iawn – ac maen nhw wedi bod yn dawnsio gyda nhw drwy’r nos ac maen nhw’n dal i fwynhau’r parti a …”
“Nos da,” dywedais, gan fynd i mewn i’r gwely sengl oedd wrth ochr ei gwely sengl hi.
“Beth? Ti’n mynd i’r gwely nawr?” gofynnodd Erin yn syn.
“Mae hi YN un o’r gloch,” atebais.
“Ond mae Lisa a Becca yn …”
“Nos da, dywedais eto, a symudais fy llaw tuag at y lamp, yn barod i’w diffodd.
“O, iawn,” atebodd Erin, gan bwnsio’r ddau obennydd a’u gosod un ar ben y llall fel ei bod hi’n gallu eistedd i fyny yn y gwely.
Diffoddais y golau, ond roedd golau main ei sgrin fach yn fy rhwystro rhag cysgu. Dyna lle buodd hi’n chwerthin … yn ochneidio … yn teipio … yn aros am ateb … yn teipio eto’n ddiddiwedd tan oriau mân y bore, nes, yn y diwedd, diffoddodd y sgrin a rhoi’r teclyn bach o dan ei gobennydd - rhag ofn y byddai angen iddi ymateb ar frys yn ystod y nos ...
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
yn llwfr | heb fod yn ddewr | cowardly |
gwyro | plygu | (to) bend |
ar hynny | yna | then |
main | tenau | thin |