Ydych chi’n cael digon o gwsg?
Faint yw “digon o gwsg”? Wel, yn ôl yr arbenigwyr, mae angen rhwng wyth a deg awr o gwsg ar bobl ifanc. Ydych chi’n cael cymaint â hyn?
Mae cwsg yn helpu’r corff i ddatblygu, mae’n helpu’r ymennydd i ganolbwyntio, mae’n helpu’r corff i aros yn iach. Felly, os ydych chi eisiau cael corff da ac os ydych chi eisiau cael 100% yn eich prawf mathemateg, rydych chi’n gwybod beth i’w wneud!
Os dydych chi ddim yn cael digon o gwsg rydych chi’n fwy tebygol o deimlo strés, teimlo’n isel a methu canolbwyntio yn yr ysgol. Felly, os dydych chi ddim eisiau bod yn hen snichyn diamynedd sy’n colli ei dymer bob pum munud, rydych chi’n gwybod beth i’w wneud!
Mae rhai gwyddonwyr yn dweud bod cael noson dda o gwsg mor bwysig â diet iach. Mae’r corff angen diet iach o lysiau a ffrwythau ac mae’r ymennydd angen diet iach o gwsg. Mae’n syml!
OND …
… mae problem fawr yn wynebu pobl ifanc heddiw – ac mae’r broblem fawr yn gysylltiedig â “ffrind” agos iawn …
Mae’r “ffrind” yma’n mynnu bod ei berchennog (chi efallai!) yn mynd â fo i bob man – i’r gwely hyd yn oed!! Yno, o dan y gobennydd, mae’n gorwedd yn llechwraidd nes … yn sydyn … mae’n dirgrynu ac yn gwneud sŵn sy’n ddigon i ddeffro’i berchennog am un …, dau …, tri o’r gloch y bore.
O ddifri, ydych chi’n mynd â'ch ffôn i’r gwely efo chi?
Mae hyn yn ddrwg i chi! I ddechrau, mae’n bosib byddwch chi’n colli golwg ar faint o amser byddwch chi’n treulio yn anfon ac yn derbyn negeseuon a bydd hi’n bryd i chi godi cyn i chi droi rownd i gysgu. Yn ail, bydd y golau ar y sgrin yn gwneud i'ch ymennydd chi feddwl ei bod hi’n ganol dydd a rhaid i chi aros yn effro – yn lle mynd i gysgu! Sôn am ddryslyd!
Felly, heno, pan fyddwch chi’n mynd i’r gwely, ac yn rhoi’r ffôn annwyl wrth ochr eich wely, neu o dan eich gobennydd …
CALLIA plîs!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
snichyn | person crintachlyd | misery guts |
diamynedd | heb amynedd | impatient |
perchennog | rhywun sy'n berchen ar | owner |
dirgrynu | crynu | (to) vibrate |
llechwraidd | yn gyfrwys, yn slei bach | slyly |
dryslyd | yn creu dryswch | confusing |
Callia! | ffurf orchmynnol y ferf callio | Wise up! |