Faint rydych chi’n ei wybod am yr Ail Ryfel Byd? Beth am roi cais ar y cwis hwn? Ar ôl ateb, cliciwch ar bob cwestiwn.

CWIS … CWIS … CWIS …

1. Pryd dechreuodd yr Ail Ryfel Byd?

Yn 1939.

2. Pwy oedd prif weinidog Prydain ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd?

Neville Chamberlain.

3. Pwy oedd prif weinidog Prydain o 1940 tan 1945, y dyn wnaeth arwain Prydain yn ystod y rhyfel?

Winston Churchill.

4. Pwy oedd arweinydd yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd?

Adolf Hitler.

5. Beth oedd y digwyddiad wnaeth arwain at yr Ail Ryfel Byd?

Goresgynnodd yr Almaen Wlad Pwyl.

6. Pa ddwy wlad oedd y cyntaf i ymuno yn y Rhyfel?

Prydain a Ffrainc.

7. Pa wlad arhosodd yn niwtral drwy gydol y Rhyfel, h.y. wnaeth hi ddim cymryd rhan yn y Rhyfel?

Y Swistir.

8. Pa 6 gwlad oedd wedi eu goresgyn gan yr Almaen erbyn 1940?

Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Ffrainc, Denmarc a Norwy.

9. Beth oedd pwrpas y poster uchod?

Annog pobl i dyfu llysiau a ffrwythau yn eu gerddi gan fod bwyd mor brin.

10. Ym mha flwyddyn llwyddodd Prydain i ryddhau Ffrainc o afael yr Almaen?

Yn 1944.

11. Beth oedd yr Holocost?

Roedd yr Almaenwyr yn carcharu Iddewon mewn gwersylloedd creulon ac yn eu poenydio a’u lladd. Credir bod tua 6 miliwn o Iddewon wedi eu lladd a’r enw am hyn yw’r Holocost.

12. Beth oedd enw'r ferch ifanc o'r Iseldiroedd ysgrifennodd am ei phrofiadau yn cuddio rhag yr Almaenwyr?

Anne Frank oedd hi. Roedd hi’n Iddewes ac ysgrifennodd hi am ei phrofiadau mewn dyddiadur.

13. Roedd bwyd yn brin iawn adeg y Rhyfel ac felly roedd rhaid rheoli faint roedd pawb yn ei gael. Beth oedd yr enw am y broses hon?

Dogni.

14. Pa ddantaith gafodd ei ddyfeisio yn ystod y Rhyfel i gymryd lle siocled - gan fod siocled yn brin?

Nutella – pâst wedi’i wneud o siwgr, cnau cyll ac ychydig o goco a oedd yn brin iawn. Cafodd ei ddyfeisio gan ddyn o’r enw Pietro Ferrero, mewn tref of enw Alba, yn yr Eidal, ardal lle roedd digonedd o goed cyll yn tyfu.

15. Pryd gorffennodd yr Ail Ryfel Byd?

Yn 1945.

16. Pa ddigwyddiad wnaeth arwain at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd?

Gollyngwyd bomiau atomig ar ddwy ddinas yn Japan – Hiroshima a Nagasaki – a lladdwyd miloedd o bobl.

***

Sut sgorioch chi, tybed?

Wel, tybed oeddech chi'n gwybod am y cynllwyn cyfrwys hwn oedd i fod i helpu'r Almaenwyr i ennill yr Ail Ryfel Byd ...?

Ffrwydrol!

Yn 1943, roedd gan y Natsïaid gynllun cyfrwys iawn i geisio lladd Winston Churchill, prif weinidog Prydain. Roedden nhw’n mynd i’w ladd â …

… siocled!!!

Dechreuodd rhai o’r bobl a oedd yn gwneud bomiau’r Natsïaid greu bom arbennig iawn. Roedd e ar ffurf bar pwys o “siocled”. Roedd y bar yn edrych fel siocled yn wir, ond o dan haenen o siocled tywyll blasus, roedd dur a ffrwydron yn cuddio. Yna, gorchuddiwyd y bar â phapur du ac aur drud a oedd yn dangos enw’r cwmni siocled - Peter’s Chocolate.

Y bwriad oedd bod sbïwyr yr Almaen, a oedd yn gweithio ym Mhrydain, yn gwneud yn siwr bod y siocled yn cael ei gymryd i mewn i ystafell fwyta Cabinet y Rhyfel. Yna, byddai rhywun yno – Winston Churchill ei hun, o bosib – yn dewis y bar, yn agor y pecyn ac yn torri darn o’r siocled ac yna …

… BANG!!!! …

Byddai hyn yn siwr o ladd y prif weinidog.

Llun: Sir Winston S Churchill - United Nations Information Office, New York (Library of Congress, Reproduction number LC-USW33-019093-C)

Yn ffodus, daeth sbïwyr o Brydain i wybod am y cynllun a’i atal.

Yn dilyn hyn, gofynnodd yr Arglwydd Victor Rothschild, un o brif swyddogion MI5 ar y pryd, i ddyn o’r enw Laurence Fish ddylunio posteri yn dangos y bariau siocled ffrwydrol er mwyn rhybuddio’r cyhoedd. 

Mae’n bosib gweld y poster ar y wefan hon: https://www.thevintagenews.com/2018/08/04/hitler-vs-churchill/

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
goresgyn concro (to) conquer
prin dim llawer ar gael rare
poenydio trin rhywun yn greulon tu hwnt gan achosi poen ofnadwy (to) torture
dantaith rhywbeth blasus tu hwnt delicacy
dyfeisio creu rhywbeth am y tro cyntaf (to) invent
cnau cyll cnau sy'n tyfu ar goed cyll hazelnuts
cynllwyn cynllun cyfrwys plot
ar ffurf yn edrych fel in the form of
gorchuddio rhoi gorchudd neu haenen dros rywbeth (to) cover
bwriad nod, amcan intention
atal stopio (to) prevent, stop