Pan oedd Sadyrnau'n las,
a môr yn Abertawe'n rhowlio chwerthin
ar y traeth,
roedd cychod a chestyll a chloc o flodau
yn llanw'r diwrnod;
a gyda lwc,
ymdeithiem yn y pensil coch o drên
a farciai hanner cylch ei drac
rownd rhimyn glas y bae
i bwynt y Mwmbwls.
Eisteddem ar y tywod twym
yn yfed y glesni,
ein llygaid newynog yn syllu'n awchus
ar fwrdd y môr.
Dilynem ddartiau gwyn y gwylain aflonydd
yn trywanu targed y creigiau,
a sbiem yn syn
ar y llongau banana melyn o'r Gorllewin a
sglefriai'n araf dros y gwydr glas,
a gorffwys dan y craeniau tal
a grafai'r wybren glir
uwchben Glandŵr.
Rhain oedd Sadyrnau'r syndod,
y dyddiau glas.
Bryan Martin DaviesDarluniau ar Gynfas a Cherddi Eraill, Gwasg Gomer.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ymdeithiem > ymdeithio | mynd, teithio | to travel together |
yn awchus | bod ag awydd/eisiau rhywbeth | eagerly |