Dydi Mistar Urdd ddim yn edrych ddiwrnod yn hŷn nag oedd e pan ymddangosodd gyntaf yn goch gwyn a gwyrdd dros dri deg mlynedd yn ôl.
Ganwyd Mistar Urdd ym Medi 1976 yn 'fab' i Wynne Melville Jones, Swyddog Cyhoeddusrwydd Urdd Gobaith Cymru.
Mae wedi ei wneud ar batrwm bathodyn siâp triongl yr Urdd a gafodd ei greu yn 1944. Mae pob lliw yr un arwynebedd â'i gilydd fel symbol bod tair elfen arwyddair gwreiddiol yr Urdd yr un mor bwysig â'i gilydd.
Mae 'Byddaf ffyddlon i Gymru' yn cael ei gynrychioli gan y gwyrdd, 'Byddaf ffyddlon i gyd-ddyn' yn cael ei gynrychioli gan y coch a 'Byddaf ffyddlon i Grist' yn cael ei gynrychioli gan y gwyn.
Pan gafodd Mistar Urdd ei 'eni' argraffwyd crysau T a nwyddau eraill gyda'i lun arnynt - heb sôn am ambell i bâr o drôns hefyd. Yn wir, cyrhaeddodd rhyw fath o gynnyrch Mistar Urdd bron bob cartref yng Nghymru yn ystod diwedd y 70au a'r 80au.
Sefydlwyd cwmni masnachol Copa Cymru i gynhyrchu'r nwyddau, agorwyd siop Mistar Urdd yn Aberystwyth a threfnwyd gwasanaeth prynu drwy'r post.
Un o'r cynhyrchion mwyaf poblogaidd oedd gonc Mistar Urdd.
Yn 1979 aeth gonc Mistar Urdd ar daith hyrwyddo trwy Gymru mewn cerbyd arbennig gyda Mici Plwm yn arwain yr ymgyrch.
Yna, yn 1998 bu yn y gofod yn gwmni i Dafydd Rhys Williams y gofodwr o Ganada sydd o dras Cymreig. Teithiodd i'r Orsaf Ofod Ryngwladol!
Mae hefyd yn dipyn o forwr! Mae wedi hen arfer hwylio ar Lyn Tegid gan iddo dreulio wythnosau lawer yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Ond ym mis Tachwedd 2010 hwyliodd mewn cwch o'r enw Gwawr gyda Gareth Roberts. Roedden nhw'n cymryd rhan yn y râs o Gran Canaria yn ynysoedd y Caneris i Sant Lucia yn y Caribî, taith o dros 2,700 milltir!
Ond bu dadlau am y tronsiau gyda llun Mistar Urdd arnynt. Cafodd stondin yr Urdd ei chau yn Eisteddfod Llangollen yn 1978 gan nad oedd swyddogion yr eisteddfod yn cytuno gyda gwerthu tronsiau ar y maes!
Yn 1997 recordiodd y Super Furry Animals y gân Trôns Mistar Urdd. Doedd y gân honno ddim yn plesio pawb 'chwaith!
Ond yng nghanol y 70au cafodd y gân Mistar Urdd wreiddiol ei rhyddau, a hyd heddiw mae'r gân yn boblogaidd, gyda'r gytgan enwog:
Hei, Mistar Urdd, yn dy goch, gwyn a gwyrdd,
Mae hwyl i gael ym mhobman yn dy gwmni.
Hei, Mistar Urdd, tyrd am dro ar hyd y ffyrdd
Cawn ganu'n cân i holl ieuenctid Cymru.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
arwyddair | symbol neu fathodyn arbennig | emblem |
cyd-ddyn | pobl | fellow man |
ffyddlon | teyrngar, triw | faithful |
gonc | tegan meddal sy'n cael ei ddefnyddio fel symbol | gonk, mascot |
Yr Orsaf Ofod Ryngwladol | lloeren sydd mewn orbit o gwmpas y byd | The International Space Station |