Beth sydd mewn lliw?

Rhifyn 7 - Lliwiau
Beth sydd mewn lliw?
Gwyrdd

e2_1.jpgByddai'r Eifftiaid yn arfer peintio lloriau eu temlau yn wyrdd. Symbol o fuddugoliaeth oedd y lliw yn yr hen Wlad Groeg. Yn yr Alban arferai gwyrdd gael ei wisgo fel symbol o fuddugoliaeth, ond lliw cenedlaethol Iwerddon ydyw. Yr unig faner genedlaethol yn y byd sydd o un lliw yn unig ydy baner werdd Lybia.

Efallai mai'r gân Gymraeg enwocaf yn cynnwys y gair gwyrdd ydy 'Peintio'r Byd yn Wyrdd' gan Dafydd Iwan ac yn Saesneg 'The Green, Green Grass of Home' gan Tom Jones.

Coch

e2_2.jpgBeth mae'r lliw coch yn ei gynrychioli i ti? Pe baet yn Rhufeiniwr yn byw cyn Crist byddai'n arwydd o frwydr, a phe baet yn filwr yn India byddet yn gwisgo coch.

Ond pe baet yn dod o Rwsia byddai'n golygu rhywbeth prydferth, gan bod y gair Rwsieg am 'coch' hefyd yn golygu prydferth. Yn Rwsia hefyd, defnyddiodd y Bolsiefigiaid faner goch fel eu symbol pan drechon nhw'r Tsar yn 1917, ac felly daeth coch yn symbol o Gomiwnyddiaeth.

Yn Tsieina mae'n symbol o lwc dda a chaiff ei ddefnyddio i ddathlu gwyliau a phriodas. Am ei fod yn symbol o fywyd, bydd y briodferch Tsieineaidd yn gwisgo ffrog goch. Yn Ne Affrica, ar y llaw arall, symbol o alar ydyw.

Ym Mhrydain coch ydy'r lliw sy'n dy rybuddio i aros wrth oleuadau traffig a bod car yn brecio, a lliw injan dân. Er hynny, mae rhai ohonom yn rhoi rhuban coch ar gar newydd i roi lwc dda i ni, fel mae'r Groegwyr yn peintio wyau'n goch i gael lwc dda dros y Pasg! Ydy coch wedi rhoi lwc dda i dimau pêl-droed a rygbi Cymru?

Glas

e2_glas.jpgByddai gweithwyr cyhoeddus yn gwisgo glas yn Rhufain ers talwm ac mae plismyn mewn llawer o wledydd yn gwisgo glas heddiw. Yng ngwlad Groeg mae llawer yn gwisgo breichled neu fwclis glas i gadw ysbrydion drwg draw.

I ni, mae glas yn gallu sefyll dros gariad a dyna pam mae priodferch yn gwisgo rhywbeth glas, ond lliw galar ydyw yn Iran.

Bydd glas hefyd yn lliw sy'n dynodi ansawdd yn aml. Dyna pam mai'r Rhuban Glas sy'n cael ei roi i'r canwr unigol gorau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bod ein traethau gorau yn cael Baner Las.

Porffor

e2_3.jpgRoedd Cleopatra dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â'r lliw porffor. I gael un owns o liwydd porffor gorfododd ei gweision i socian 20,000 o falwod pwrpwra am ddeg diwrnod! Roedd yn broses hir ac anodd a gafodd ei chadw'n gyfrinach am ganrifoedd lawer.

Yng nghyfnod yr hen Rufeiniaid dim ond teuluoedd brenhinol oedd yn gwisgo'r lliw porffor. Mae porffor yn dal i gael ei ystyried yn lliw brenhinol heddiw.

Yng Ngwlad Thai bydd dynes yn gwisgo porffor ar ôl colli ei gŵr.

Gwyn

e2_4.jpgCaiff gwyn ei gyfrif yn lliw pur a sanctaidd ac mae baner wen yn symbol o heddwch.

Byddwn ni bob amser yn meddwl am angylion yn gwisgo dillad gwynion a chredai'r Persiaid bod y duwiau yn gwisgo gwyn.

Mae'n lliw galar yn China, ond yn niwylliant y gorllewin mae ei wisgo ar ddydd priodas yn dod â lwc dda.

Du

e2_5.jpgGwisgai'r hen Eifftiaid a'r Rhufeiniaid ddu wedi i rywun farw fel y gwneir heddiw. Mae hefyd yn lliw sy'n awgrymu cyfrinachedd ac ystyrir ef fel lliw soffistigedig a chrand.

Credai'r Rhufeiniaid fod gan gathod duon bwerau goruwchnaturiol a hyd heddiw yng Nghymru credir bod cath ddu yn dod â lwc dda.

Beth sydd mewn enfys?

rainbow.jpgOeddech chi'n gwybod? Mae'n rhaid cael dŵra haul i weld enfys.

Caiff y bwa amryliw yma ei greu wrth i oleuni'r haul gael ei blygu a'i wasgaru gan ddafnau o ddŵr sydd yn yr atmosffer, e.e. glaw.

Pan rydyn ni'n gweld enfys, rhaid cael yr haul y tu ôl i ni a'r glaw o'n blaenau ni. Hefyd, rhaid i ganol bwa'r enfys fod yn union gyferbyn â'r haul.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai lliwiau'r enfys ydy coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, indigo a fioled, ond mewn gwirionedd mae enfys yn cynnwys myrdd o liwiau - rhai na all y llygad mo'u gweld hyd yn oed!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
buddugoliaeth ennill rhywbeth, concwest victory
Bolsiefigiaid y rhai a arweiniodd y chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia Bolshevicks
galar tristwch dwys ar ôl colli rhywun sorrow
goruwchnaturiol pan fydd gan rywbeth bŵer na ellir ei ddeall/esbonio supernatural
plygu gwneud i belydryn o oleuni newid cyfeiriad wrth fynd i mewn ar ongl to refract
gwasgaru hollti neu ledaenu'r goleuni yn wahanol elfennau to disperse