Y cudyll coch

Rhifyn 7 - Lliwiau
Y cudyll coch

Y cudyll cRhys Meredyddoch

e1_1.jpg

Trwy'r awyr las yn gwibio,

Fel cudyll uwch yn cwm,

Fe welais yr awyren

Yn dod, a rhuo trwm

Ei phŵer yn cynhyrfu'r tir

Wrth dorri cŵys trwy'r bore clir.

 

Ond gwyro dros y gorwel

A wnaeth y cudyll hwn

I'r rhyfel, ac fe glywaf

Bob gwaedd o faes y gwn;

Y cri o bell lle glania'r bom

A'r tai yn deilchion yn y dom.

 

Pan ddaw'r awyren eto

Trwy hedd fy nghymoedd i,

Bydd bryniau'r hwyr yn cochi

 ch'wilydd drosti hi;

Cudyll y braw uwch copa'r bryn,

A'r gwaed ar ei hadennydd gwyn.

Rhys Meredydd

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cudyll coch math o aderyn ysglyfaethus kestrel
cwys ffos hir a chull yn y ddaear wedi'i gwneud gan aradr furrow
yn deilchion yn ddarnau mân smithereens
dom baw, tail soil, manure