Stori las

Rhifyn 7 - Lliwiau
Stori las

Mae pedair o ffrindiau - Carol Ann, Miriam, Brenda ac Elen (sy'n adrodd y stori) mewn caffi. Dim ond un person arall sydd yno - hen ŵr o'r enw Henri Tomos. Roedd Brenda wedi bod yn darllen erthygl 'Do you dream in colour?' yn y cylchgrawn Miss 17. Cyfaddefodd Elen a Miriam eu bod yn breuddwydio ac yn meddwl mewn lliw.

h3_2.jpg'Dydach chi'ch dwy ddim yn gall,' meddai Carol Ann.

'Hei, hei,' meddai Brenda, 'Pa liw ydw i Miriam?'

'Coch,' meddai Miriam ar ei hunion.

'Elen, pa liw ydw i?'

'Coch,' meddwn yn hollol onest.

'A be am Carol Ann?'

'Llwyd,' meddai Miriam.

'Llwyd,' meddwn innau mewn llais bach ar ei hôl.

'Hy, jest deud beth bynnag ma' Miriam yn'i ddeud 'ma Elen,' meddai Carol Ann yn gwta.

'Reit, mi gawn ni weld,' meddai Brenda. Rhwygodd ddau ddarn bach o'i Miss 17 a rhoddodd un i Miriam ac un i mi. Gan ddynwared un o'r athrawesau yn yr ysgol dywedodd, 'Yn awr, blant mae'n rhaid i mi roi prawf i chi. Yr wyf am i chi edrych yn ofalus ar yr hen ŵr, Henri Tomos, sydd yn eistedd yn ei gornel arferol yn yfed te, ac yna rwyf am i chi ysgrifennu y lliw a gysylltwch ag ef ar eich papurau.'

Dyna'r tro cyntaf erioed i mi edrych ar Henri Tomos o ddifrif. Sylwais ar ei ddwylo: roedden nhw'n batrymau seicadelaidd pinc, piws a glas gan oerni ac fe'u daliai hwy fel dau betal o gwmpas ei gwpaned o de du, poeth, - er mwyn eu cynhesu mae'n rhaid. Yna edrychais ar ei wyneb, a sylwais ar unwaith ei fod yn hynod o debyg i'm taid. Yr oedd hynny, mae'n debyg, oherwydd y llygaid yn fwy na dim. Serennai llygaid Henri Tomos fel dau grisial copr-sylffad yn ei ben, - y llygaid mwyaf glas a welais erioed, ac eithrio fy nhaid. Teimlwn fod glesni'i lygaid yn cynnal Henri drwyddo, ac yn adlewyrchu drosto'i gyd. Ysgrifennais GLAS ar y papur, ei blygu a'i roi i Brenda. Darllenodd hi un Miriam yn gyntaf, ac wedyn f'un i. Yna rhoddodd sgrech dros bob man.

h3_1.jpg'Glas,' meddai hi, gan chwerthin. Dechreuodd ganu,

'Dyn bach glas, glas, glas,

Ie finlas, finlas, finlas,

Foel lygatlas, foel lygatlas,

Trwyn mawr glas a chlustia

Glas, glas, glas.'

Dyma ni i gyd yn dechrau chwerthin. Yng nghanol hyn i gyd cododd Henri Tomos i fynd allan. Fel yr âi heibio ein bwrdd ni, trodd Brenda i'w wynebu:

'Sut hwyl sydd heno, Henri Tomos,' meddai yn henaidd i gyd, a direidi yn ei llygaid.

'Go dda, wir, hogan,' meddai yntau. 'O mae'n hen gariad bach,' meddyliais, a dechreuais deimlo bechod drosto am ei fod yn edrych yn oer ac yn unig. Aeth Brenda ymlaen:

'Ma' hi'n las iawn heno,' meddai gan godi ei hysgwyddau ac esgus crynu.

'Ydi,' meddai Henri, 'ydi, ydi...'

'Ydach chi'n meddwl y gwnaiff hi aeaf glas eleni?' gofynnodd Brenda. Gwthiodd Carol Ann ei hances boced i'w cheg. Yr oedd ei hwyneb fel balŵn pinc ar fin byrstio. Ond wrth edrych ar wyneb diniwed, annwyl Henri ni allwn chwerthin yn fy myw. Doedd Miriam ddim yn chwerthin chwaith. Diflannodd peth o'r syndod o lygaid gleision, prydferth Henri, ac atebodd, braidd yn betrus,

'Wel, mi lasa neud am wn i.'

'Glasa- y lasa,' meddai Brenda, gan gymryd arni ei chywiro ei hun yn gyflym.

Byrstiodd balŵn Carol Ann nes ei bod yn chwerthin dros bob man yn afreolus. Edrychodd Henri arnom, a'i ddiffyg deall o'r hyn oedd yn mynd ymlaen yn amlwg ar ei wyneb. Meddyliais i mi weld rhyw dristwch ofnadwy yn ei lygaid. A'r peth nesaf a wyddwn, tra roedd Brenda a Carol Ann yn morio chwerthin, yr oeddwn i yn beichio crio.

'Elen! Pam wyt ti yn crio?' gofynnodd Brenda mewn anghrediniaeth llwyr.

'Bechod ... drosto ... fo' meddwn i rhwng ochneidiau o grio.

'Roedd gen inna' bechod drosto fo hefyd,' meddai Miriam.

'Dydach chi'ch dwy ddim yn gall!' meddai Carol Ann.

 

Detholiad o 'Stori Las' gan Eleri Llywelyn Morris.

Hawlfraint: Straeon Bob Lliw, Gwasg Dinefwr.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dynwared efelychu, copïo to imitate
seicadelaidd lliwiau llachar gyda phatrymau troellog sy'n rhoi pendro i chi psychadelic