
Trwy'r awyr las yn gwibio,
Fel cudyll uwch yn cwm,
Fe welais yr awyren
Yn dod, a rhuo trwm
Ei phŵer yn cynhyrfu'r tir
Wrth dorri cŵys trwy'r bore clir.
Ond gwyro dros y gorwel
A wnaeth y cudyll hwn
I'r rhyfel, ac fe glywaf
Bob gwaedd o faes y gwn;
Y cri o bell lle glania'r bom
A'r tai yn deilchion yn y dom.
Pan ddaw'r awyren eto
Trwy hedd fy nghymoedd i,
Bydd bryniau'r hwyr yn cochi
 ch'wilydd drosti hi;
Cudyll y braw uwch copa'r bryn,
A'r gwaed ar ei hadennydd gwyn.
Rhys Meredydd| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| cudyll coch | math o aderyn ysglyfaethus | kestrel |
| cwys | ffos hir a chull yn y ddaear wedi'i gwneud gan aradr | furrow |
| yn deilchion | yn ddarnau mân | smithereens |
| dom | baw, tail | soil, manure |