Man gwyn man draw

Rhifyn 7 - Lliwiau
Man gwyn man draw

e3_1.jpgNoson fawr a minnau'n swatio o dan y cwilt. Dim trydan a dim gwres. Roedd ceisio gwneud popeth mewn golau cannwyll yn gyffrous i ddechrau a hyd yn oed gario dŵr o'r pentre yn antur. Heno, wedi pythefnos o eira dydy pethau ddim cystal! Efallai bod popeth yn wyn y tu allan ond ddim felly yn fy mywyd i!

Mae'r gwynt iasoer o Wlad yr Iâ wedi chwipio'r eira yn lluwchfeydd ym mhobman a'r rheiny wedi cau ffyrdd a rheilffyrdd. Erbyn hyn mae pawb wedi diflasu ar slejio ac adeiladu dynion eira ac yn ysu am gael mynd yn ôl i'r ysgol! Dydy byw yn y wlad ddim yn fêl i gyd, er bod pobl trefi yn meddwl hynny.

Ond daw eto haul ar fryn! A dw i'n dechrau breuddwydio am y gwyliau haf rydyn ni wedi ei drefnu. Pythefnos nefolaidd mewn gwesty pum seren yn Lagos, ar yr Algarve ym Mhortiwgal! Mam, dad, fy mrawd bach, Iorwerth - sy'n gariad i gyd - a minnau! Y teulu perffaith! Teimlaf y tywod melyn yn cosi bodiau fy nhraed a chlywaf sibrwd y môr glas wrth iddo lyfu'r traeth. Mae chwerthin iach y plant yn llonni fy nghlustiau wrth i mi orweddian ar wely haul cyfforddus yn troi'n frown fel cneuen aeddfed. Cael fy suo i gysgu fel babi bodlon wrth wrando ar fy hoff gerddoriaeth. Ac yna'r dŵr melfedaidd! Mae'n glir fel crisial a'r pysgod yn gwibio nôl a mlaen wrth fy nhraed.

Cofiaf am y lluniau o'r tri phwll nofio yn y gwesty. Siapiau diddorol a phontydd a llithrenni i gadw'n diddordeb a gemau dŵr diddiwedd. Gwych! A gwn y byddaf yn llenwi fy mol o fore gwyn tan nos yn y caffis ar lan y pyllau nofio...

Dychmygaf yr haul yn machlud gan greu llwybr tuag ato ar hyd y môr a minnau yno a bachgen golygus yn gafael yn dynn amdanaf. Y ddau ohonom yn cerdded linc-di-lonc yn droednoeth ar hyd y tywod yn gwylio'r sêr. Paradwys!

 

***

 

e3_2.jpgMae Iorwerth wedi bod yn boen ers pan ydyn ni yma. Dydy o ddim yn hoffi'r bwyd - gormod o bwdin dagith gi, meddai; dydy o ddim yn hoffi'r tywod - mae'n rhy boeth; dydy o ddim yn hoffi'r ystafell - mae ar y pumed llaw a dydy'r lifft ddim yn ddibynadwy iawn; dydy o ddim yn hoffi'r pwll nofio - gormod o chwaraeon ... ac ati, ac ati! Swnian, swnian, swnian fel cloc larwm nes mae'n rhaid i chi wrando arno.

Rydw innau'n gorwedd ar dywel a'r tywod yn crafu ei ffordd i bob rhan o'm corff a glynu fel gliw wrth yr haenau o eli haul seimllyd sydd i fod i'm cadw rhag llosgi. Ond rydw i'n goch fel cimwch er hynny! Mae'r haul mor annioddefol â than uffern ac mae'n rhaid i mi fynd i'r môr i oeri bob pum munud. Rydw i i fyny ac i lawr fel io-io!

A pha bleser sydd yn y môr, beth bynnag, pan fo rhaffau ym mhob man i ddangos ble mae llwybrau'r jetskis, y pedalos a'r cychod banana? Does dim parch i nofwyr yma! Does dim parch i bysgod chwaith. Pa obaith sydd ganddyn nhw yn erbyn y bagiau plastig a'r sbwriel sy'n clymu rownd y gwymon a'r poteli a'r caeadau plastig sy'n dawnsio yn y dŵr? Wna i byth, byth, eto gwyno am sbwriel ar draethau Cymru!

Rydw i mor anghyfforddus fel na fedra i ddim gwrando ar fy ipod ac mae arna i ofn i dywod fynd i mewn iddo. A does dim gobaith cysgu oherwydd mae rhywun yn cerdded heibio bob munud a sgrechian babis a phlant yn merwino fy nghlustiau.

O na, wythnos arall o hyn! Teg edrych tuag adref!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
lluwchfeydd eira trwm snowdrifts
nefolaidd hyfryd heavenly
aeddfed barod i'w fwyta ripe, mature
melfedaidd esmwyth velvety
machlud haul yn mynd i lawr sunset
swnian cwyno to wine
annioddefol rhywbeth sy'n amhosib ei ddioddef unbearable