Pêl-droed, y Sgowtiaid, rasio, hysbysebion, rygbi, y tywydd, môr-ladron, hwylio, byddinoedd... Beth sydd gan y rhain i gyd yn gyffredin? Baneri!
Ond efallai mai gyda gwledydd y mae baneri'n cael eu cysylltu amlaf. Maent yn amrywio o ran lliw, o ran patrwm ac o ran llun ac er bod yr un lliwiau'n cael eu defnyddio mae arwyddocâd y lliw'n amrywio o faner i faner.
Ar faner y Bahamas mae tair stribed ar draws gyda thriongl du ar y chwith. Mae'r stribedi uchaf ac isaf yn las i gynrychioli glesni'r môr ac mae'r stribed ganol yn felyn i gynrychioli traethau tywod y 700 o ynysoedd sydd yno. Mae'r triongl du yn sefyll dros yr undeb rhwng yr ynysoedd a'r ffaith bod y trigolion yn benderfynol o ddatblygu'r tir a'r môr.
Cefndir gwyn sydd i faner Cyprus gyda map melyn/aur o'r ynys yn y canol. O dan y map mae dwy gangen olewydd gwyrdd. Mae cangen olewydd yn hen arwydd o heddwch. Dewiswyd y lliwiau yn fwriadol i geisio sefydlu heddwch rhwng dwy ran yr ynys - y Twrciaid sy'n byw yn y gogledd a'r Groegiaid sy'n byw yn y de. Cafodd lliwiau traddodiadol y ddwy genedl - glas gwlad Groeg a choch Twrci eu hosgoi yn fwriadol. Mae'r canghennau olewydd gwyrddion yn symbol o heddwch.
Tair stribed ar draws - du, coch ac aur - ydy baner yr Almaen. Mae'r lliwiau hyn wedi cael eu cysylltu â'r Almaen ers y Canol Oesoedd ac mae'r faner yn seiliedig ar liwiau dillad y milwyr yn rhyfeloedd Napoleon, sef cotiau du gyda rhimyn coch a botymau aur.
Dywed Thue Christiansen, cynllunydd y faner, 'Mae'r rhan fawr wen yn cynrychioli'r cap rhew ac mae'r rhan goch yn y cylch yn sefyll dros y fjords. Mae rhan wen y cylch yn cynrychioli'r mynyddoedd rhew a rhan fawr goch y faner yn cynrychioli'r môr.'
Eric Goch o Norwy wnaeth ddarganfod yr ynys yn y 10fed ganrif a galwodd yr ardal yn Groenland (tir gwyrdd). Dim ond yr arfordir sy'n wyrdd, mae'r gweddill wedi'i orchuddio â rhew gwyn.
Tair streipen ar draws gyda choch ar y top, gwyn yn y canol a gwyrdd ar y gwaelod ydy baner Hwngari. Mae'r coch yn cynrychioli cryfder, y gwyn yn cynrychioli ffyddlondeb a'r gwyrdd yn cynrychioli gobaith.
Y cefndir i faner Kenya ydy tair stribed ar draws gyda du ar y top, coch yn y canol a gwyrdd ar y gwaelod. O boptu'r coch yn y canol mae streipiau gwyn tenau. Yng nghanol y faner mae tarian a gwaywffyn milwyr llwyth y Masai.
Cynrychioli pobl Affrica wna'r lliw du, saif y llinell wen dros heddwch ac undeb, y coch dros y frwydr annibyniaeth a'r gwyrdd dros amaethyddiaeth ac adnoddau naturiol y wlad. Ystyr yr arwyddlun canolog ydy brwydr Kenya am ryddid.
Dwy streipen am i lawr ydy baner Portiwgal - gwyrdd ar y chwith (tua dwy ran o bump o'r faner) a choch ar y dde (tua tair rhan o bump o'r faner). Lle mae'r ddau liw yn cyfarfod mae arfbais gyda tharian draddodiadol y wlad.
Mae'r coch yn cynrychioli gwrthryfel y Portiwgaliaid yn 1910 ac mae'r gwyrdd yn symbol o obaith. Mae pum tarian las ar y faner gyda phum dot gwyn arnynt. Mae'r tariannau glas yn cynrychioli buddugoliaeth brenin cyntaf Portiwgal yn erbyn pum brenin arall. Mae'r dotiau yn ein hatgoffa o friwiau Iesu Grist. Mae'r tariannau wedi eu gosod ar ffurf croes i gynrychioli Cristnogaeth. Mae'r border coch gyda saith castell arno yn dangos sut yr estynnwyd ffiniau Portiwgal.
Gwyrdd ydy cefndir y faner i gynrychioli tyfiant a chyfoeth naturiol y wlad. Yn y gornel waelod ar y dde mae tair streipen gyfartal o ran maint yn rhedeg am i lawr. Mae'r coch ar y chwith yn sefyll dros frwydr annibyniaeth Zambia, y du dros bobl Zambia a'r oren dros y cyfoeth o fwynau sydd yn y wlad, yn arbennig copr. Cynrychiola'r eryr sydd uwchben y streipiau ryddid ac mae'n rhan o arfbais y wlad.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
arwyddocâd | ystyr | significance |
olewydd > olewydden | - | olive > olive tree |
rhimyn | ymyl | rim, edge |
gwaywffyn (gwaywffon) | math o arf hir â blaen miniog | spear |
llwyth | grŵp o bobl | tribe |
arwyddair | symbol neu fathodyn arbennig | emblem |
arfbais | tarian unigryw person, teulu neu wlad arbennig | coat of arms |
mwynau | sylweddau a geir drwy gloddio amdanyn nhw e.e. glo, aur | minerals |