Gyrrwr lori ar y lôn

Rhifyn 9 - Ar y ffordd
Gyrrwr lori ar y lôn

Gyrrwr lori ar y lôn

Mae'r ffordd yn rhuban sidan

yn llifo'n ddu o'm blaen,

a'r lori'n chwyrnu'n isel 

wrth deithio 'mlaen a 'mlaen. 

 

Mae'r goleuadau oren

sy'n gwibio heibio'n fflach

yn gwneud i'r nos ddiflannu 

fel haul y bore bach. 

 

Af nawr i'r gwasanaethau

a'u croeso disglair, mawr;

caf yno fwyd a diod

beth bynnag ydy'r awr. 

 

Ond wedyn, rhaid dychwelyd

i'r ffordd ddiderfyn, ddu,

i lywio'r lori'n ddiogel 

drwy draffig mawr ei su. 

 

Mae diesel yn fy ngwaed i: 

Rwy'n gwybod yn y bôn 

Na fyddwn byth yn hapus 

Pe na bawn ar y lôn.

lori_nos.jpg

Lluniau: Highways Agency a nzbuu

Elin Meek

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
fflach golau sydyn flash
di-derfyn byth yn gorffen never-ending
su sŵn gwenyn buzz
yn y bôn go iawn, mewn gwirionedd really, basically
pe na bawn taswn i ddim if I wasn't