Mansel Davies a'i fab

Rhifyn 9 - Ar y ffordd
Mansel Davies a'i fab

Ydych chi wedi gweld un o lorïau Mansel Davies? Mae'n rhaid eich bod chi wedi gwneud - mae gan y cwmni o sir Benfro  tua 170 o lorïau. Maen nhw'n teithio i bob rhan o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Ewrop.

Dechrau'r cwmni

Dechreuodd Mansel Davies y cwmni yn 1875, i gario glo o gwmpas tai a busnesau. Ar y pryd doedd dim lorïau, felly ceffyl a chart oedd yn gwneud y gwaith.

Tyfodd y cwmni a defnyddio lorïau yn lle ceffyl a chart. Erbyn 1962, prynodd Kae Davies y cwmni oddi wrth ei dad. Stephen Davies, mab Kae, sy'n rhedeg y cwmni nawr. Yn Llanfyrnach mae prif swyddfa'r cwmni o hyd, ond mae garejys hefyd yng Nghaerfyrddin, yn Nhreletert, ac yn Temple Bar, ger Llanbedr Pont Steffan.

Volvo yw pob lori!

Os gwelwch chi lori Mansel Davies, mae'n rhaid mai lori Volvo yw hi. Dim ond lorïau Volvo sydd gyda nhw. Maen nhw hefyd yn gwerthu tryciau a lorïau Volvo.

Llaeth

Mae tanceri bach Mansel Davies yn casglu llaeth o ffermydd yng ngorllewin Cymru. Wedyn, bydd y llaeth yn cael ei symud i danceri mawr, dros 30 ohonyn nhw. Bob dydd:

  • mae deuddeg tancer yn mynd i Langefni
  • mae wyth neu naw tancer yn mynd i Lundain
  • mae pedair tancer yn mynd i Southampton
  • mae tua deg tancer yn mynd i fannau eraill ym Mhrydain.

Felly, rydych chi'n siŵr o weld tancer llaeth Mansel Davies yn rhywle!

Llwythi eraill

Mae'r llwythi eraill yn cynnwys:

  • olew cnau coco
  • olew coed palmwydd
  • bwyd anifeiliaid
  • cerrig mân
  • maidd
  • sudd oren  (mae'r tanceri'n mynd ag e o'r Iseldiroedd i ffatri lolipops yn swydd Caerloyw)

Cadw llygad ar y lorïau!

tarcker_md_663x474.jpg

 

Mae swyddfa Mansel Davies yn dilyn y lorïau drwy system GPS. Maen nhw'n gwybod yn union:

  • ble mae pob lori
  • o ble mae hi wedi dod
  • faint o'r gloch gychwynodd hi
  • pa mor gyflym mae hi'n teithio
  • faint o'r gloch bydd hi'n cyrraedd pen ei thaith

Costau

Mae angen tanwydd ar y lorïau. Felly, rhaid gwario llawer o arian i'w brynu. Hefyd, rhaid talu am dollau, er enghraifft, Pont Hafren. Mae garejys gan y cwmni i gynnal a chadw'r lorïau. 

Modelau o lorïau Mansel Davies

md_corgi.jpg

Gwnaeth cwmni Corgi fodelau o lorïau Mansel Davies, ond chafodd dim llawer iawn eu gwneud. Felly, erbyn hyn maen nhw'n brin ac yn ddrud i'w prynu ar y we. Os oes model gyda chi, cadwch e'n ddiogel!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llwythi y pethau sy'n cael eu cario loads
olew coed palmwydd olew arbennig palm oil
maidd hylif sy'n weddill ar ôl gwneud caws whey
Yr Iseldiroedd gwlad ar bwys gwlad Belg a'r Almaen Netherlands (Holland)
Swydd Caerloyw sir yn Lloegr Gloucestershire
tanwydd mae'n cael ei losgi i redeg inhan fuel
tollau rhaid talu'r rhain i groesi pont neu fynd ar draffordd tolls
cynnal a chadw trwsio maintenance
prin does dim llawer rare