Erbyn canol y ganrif hon, mae'n edrych yn debyg y bydd olew'n dod i ben. Fydd injans petrol a disel ddim yn werth dim erbyn hynny. Mae'n rhaid dechrau meddwl am dechnoleg newydd. Felly, ai ceir trydan yw'r ateb?
Ar hyn o bryd, mae 28.5 miliwn o geir ym Mhrydain, ond lleiafrif bach iawn - dim ond tua 1,500 ohonyn nhw - sy'n geir trydan. Pam nad oes rhagor?
Mae nifer o anfanteision i geir trydan ar hyn o bryd.
Rhaid talu crocbris am geir trydan. Er bod y llywodraeth yn cynnig grant o £5,000 i bawb sy'n prynu car trydan, mae car fel 'Nissan Leaf' yn dal i gostio £25,990. Does dim llawer o geir trydan ail-law ar y farchnad eto chwaith, felly does dim dewis ond prynu ceir newydd, drutach.
Fel arfer, mae'n rhaid gwefru car trydan bob 100 milltir. Felly, byddai taith o ogledd i dde Cymru'n anymarferol iawn oherwydd byddai'n rhaid aros sawl gwaith i wefru. Y drafferth yw bod rhai ceir yn cymryd hyd at 8 awr (dros nos) i wefru. O ganlyniad, byddai'n haws mynd ar y trên neu'r bws i'r gogledd.
Ychydig o'r rhain sydd ar y ffyrdd ar hyn o bryd - tua 2,500 dros Brydain. Heb orsafoedd gwefru cyfleus, mae'n amhosibl teithio dros 100 milltir.
Mae ceir trydan yn ymddangos yn wyrdd ac yn 'lân' o ran yr amgylchedd oherwydd nad ydyn nhw'n allyrru mwg ecsôst. Ond, os yw'r trydan yn dod o ffynonellau 'budr/brwnt', fel gorsafoedd pŵer sy'n llosgi glo, dydy'r ceir ddim yn wyrdd chwaith.
Ond, rhaid cofio bod nifer o fanteision hefyd:
Mae rhai pobl sy'n gyrru dros 100 milltir y dydd i weithio bob dydd yn gwefru'r car yn y gwaith cyn mynd adre. Maen nhw'n gweld hyn yn llawer haws na gorfod ciwio am betrol.
Rhatach na phetrol neu ddisel
Mae gwefru car yn rhatach na'i lenwi â phetrol neu ddisel.
Mae ceir trydan yn gwella drwy'r amser. Ychydig flynyddoedd yn ôl, dim ond ceir bach dwy sedd oedd ar gael. Doedden nhw ddim yn gallu mynd yn bellach na 80 milltir, a ddim yn gyflymach na 45 milltir yr awr. Erbyn hyn mae ceir 5 sedd ar gael sy'n mynd yn bellach ac yn gyflymach.
Os ydych chi'n teithio llai na 100 milltir y dydd, mae car trydan yn ddefnyddiol dros ben. Gallwch wefru'r car gartref dros nos.
Does dim rhaid talu treth ffordd am gar trydan.
Roedd ceir trydan yn boblogaidd tua chanrif yn ôl, cyn i'r injan betrol gael ei datblygu.
Pan oedd argyfwng olew yn y 1970au a'r 1980au, dechreuodd pobl gymryd diddordeb eto mewn ceir trydan, ond dim ond dros dro.
Ers tua 2005 mae mwy o ddiddordeb wedi bod mewn cynhyrchu ceir trydan, yn bennaf oherwydd bod pris olew'n cynyddu a bod eisiau gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
crocbris | pris uchel iawn | exorbitant price |
gwefru | rhoi gwefr drydanol | to charge |
allyrru | gyrru allan | emit |
treth | arian y mae'n rhaid ei dalu i'r llywodraeth | tax |