Mae'r llywodraeth yn ystyried codi terfyn cyflymder ar y draffordd o 70 milltir yr awr (m.y.a.) i 80 m.y.a erbyn 2013. Ond mae ymgyrch i wrthwynebu'r syniad.
Y ddadl o blaid
Y ddadl yn erbyn
Cafodd y terfyn cyflymder 70 m.y.a hwn ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 1965. Cyn hyn, doedd dim terfyn cyflymder ar ffyrdd ym Mhrydain. Ar y pryd, doedd car teulu cyffredin ddim yn gallu mynd yn gynt na 70 m.y.a. beth bynnag. Cyn i'r terfyn cyflymder gael ei gyflwyno, roedd llawer o ddamweiniau wedi digwydd mewn niwl trwchus ar draffordd newydd yr M1.
Erbyn heddiw, mae car teulu cyffredin yn gallu teithio hyd at 120 m.y.a.
Lluniau: Lee Haywood, Brian Snelson a Leo Reynolds.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| ymgyrch | 'brwydr' pobl sydd yn erbyn rhywbeth | campaign |
| gwrthwynebu | bod yn erbyn rhywbeth | oppose |
| terfyn cyflymder | chewch chi ddim mynd yn gynt na hyn | speed limit |
| gostyngiad | llai o nifer | reduction |
| yn llym | yn hallt, yn ddifrifol | severely |
| tanwydd | mae'n cael ei losgi i redeg injan | fuel |
| dadl amgylcheddol | dadl sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd | environmental argument |
| dwys | trwm | intense |
| dros dro | am ychydig yn unig | temporary |