Os ydych chi'n teithio i'r ysgol ar fws, tybed beth yw oed y gyrrwr? Yn hŷn na Joseff Edwards, siwr o fod. Dim ond 18 oed yw Joseff ac mae'n ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf.

 Pasiodd Joseff ei brawf gyrru bws y llynedd, felly mae'n cael gyrru bws 54 sedd. Bydd yn codi cyn cŵn Caer bob bore i gasglu 38 o ddisgyblion a mynd â nhw i'r ysgol. Mae Joseff yn gwisgo ei wisg ysgol gyda siaced gyrrwr bws drosti. 

"Mae pobl yn synnu gweld rhywun mor ifanc â fi'n gyrru bws," medd Joseff. 

Ar ôl cyrraedd yr ysgol, bydd Joseff yn gadael y bws yn y maes parcio ac yn mynd i'w wersi. Ar ddiwedd y dydd, mae'n gyrru pawb adref eto.

"Dwi'n mwynhau gyrru pawb i'r ysgol ac yn ôl adref. Does dim trafferth ar y bws byth achos mae pawb yn fy adnabod ond weithiau bydd fy ffrindiau'n tynnu fy nghoes. Maen nhw eisiau i mi fynd â nhw ar drip neu ar wyliau, ond bydd yn rhaid iddyn nhw aros." 

Mae gan rieni Joseff gwmni bysys sy'n gyrru disgyblion i Ysgol Dyffryn Taf. Mae 21 bws ganddyn nhw i gyd. Ar ôl cael ychydig o wersi gan ei dad, pasiodd Joseff ei drwydded PCV -Passenger Carrying Vehicle. Cynigiodd ei dad swydd i Joseff ac mae'n rhoi £20 y dydd iddo am ei waith. 

"Mae Joseff wrth ei fodd," medd ei dad, "mae'n rhaid bod gyrru yn ei waed." 

Yn y pen draw, mae rhieni Joseff yn gobeithio y bydd yn dod i weithio yn y busnes, ar ôl iddo fod yn y coleg.