Teithio yng Nghymru

Rhifyn 9 - Ar y ffordd
Teithio yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru'n casglu ystadegau am deithio yng Nghymru.

Dyma rai o'r ystadegau ar gyfer 2008/9:

Pwrpas y teithiau

Teithiau i'r gwaith ac ar gyfer busnes 16%
Addysg a hebrwng plant i/o'r ysgol 10%
Siopa 22%
Hebrwng i fannau eraill 9%
Busnes personol 10%
Ymweld â pherthnasau 18%
Hamdden a mynd am dro 15%

Hyd y teithiau

O dan 1 filltir 20%
1 i o dan 2 filltir 17%
2 i o dan 3 milltir 12%
3 i o dan 5 milltir 14%
5 i o dan 10 milltir 18%
10 i o dan 25 milltir 14%
25 milltir a throsodd 5%

Sut mae'r teithiau'n digwydd

Mewn car/fan (gyrrwr neu deithiwr) 67%
Cerdded 22%
Dulliau eraill 11%

ystadegau_traffig_250x679.jpg

Dyma rai ffeithiau diddorol am ddynion a menywod o ran y teithiau uchod:

  • Mae dynion a menywod yn mynd ar nifer tebyg o deithiau.
  • Fel arfer, mewn ceir, mae dynion yn gyrru tra bod menywod yn gyd-deithwyr. 
  • O'u cymharu â dynion, mae menywod yn mynd arlaio deithiau i'r gwaith ac ar gyfer busnes, ac arfwyo deithiau ar gyfer addysg a hebrwng plant i/o'r ysgol, siopa, ac ymweld â ffrindiau.
  • Mae menywod yn mynd arlaio deithiauhir, ond arfwyo deithiaubyr. 

Lluniau: Soffie HicksDennis Egan a Highways Agency.